Cyngor Gwynedd yn cymeradwyo pwerau newydd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau
Cyngor Gwynedd yn cymeradwyo pwerau newydd i reoli ail gartrefi a llety gwyliau
Dan un faner gydag un llais mae'r galw am newid ers blynyddoedd wedi bod yn weledol ac yn amlwg.
Eisoes mae'n rhaid i ail gartrefi dalu premiwm treth o 150% ond o fis Medi 'mlaen mi fydd unrhyw un sydd isio troi eu cartref yn ail gartref yn gorfod derbyn caniatâd cynllunio.
"Mae o'n mynd i fod yn help mawr. Mae 'na greisis tai yn y sir. "Mae miloedd o bobl ar y rhestr aros am dŷ cymdeithasol... "..a thua 7,000 o ail-gartrefi neu lety gwyliau yn y sir... "..sydd tua 12% o'r holl stoc.
"Mae'n creu cyfle go dda i ni fynd i'r afael a'r broblem."
Un arf arall medd y cyngor felly i achub cymunedau'r sir ac i ymgyrchwyr er yn cydnabod y tensiwn all y polisi greu mae 'na groeso.
"Mae'n anodd.
"Mae 'na densiwn yn lleol yn sicr rhwng pobl leol... "..a'r bobl sydd pia ail dai a busnesau yma.
"Mae o'n bwnc anodd ond mae'n rhaid gweithredu i reoli'r broblem... "..neu fydd ein cymunedau a'n hiaith yn cael eu colli am byth.
"A pob dim sy'n annwyl i ni yma."
Dydy effaith ail gartrefi ddim yn unigryw i Wynedd ond dyma lle mae'r broblem ar ei waethaf.
Mae penderfyniad Cyngor Gwynedd heddiw yn un arwyddocaol yr enghraifft mwya amlwg o awdurdod lleol yn ymyrryd yn y farchnad dai a hynny reit ar draws y DU.
A fawr o syndod felly fod 'na wrthwynebiad hyd yn oed o fewn y cyngor.
"'Dan ni heb gael trafodaeth iawn am Article 4 yn y Cyngor.
"Fy ngwrthwynebiad - mae hi'n rhy hwyr.
"Mae Abersoch 'di cael ei chynllunio i godi tai haf a dyna be ydy o.
"Pentre tai haf o bentre bach pysgota.
"Deudwch bod ni isio gwerthu, mae'n mynd i ostwng pris y tŷ yn enfawr." " heddiw mae grŵp lleol sy'n erbyn y cynlluniau... ..yn dweud eu bod nhw wedi codi dros £70,000 i gyflwyno her gyfreithiol.
Fe alle'r gwaith papur medden nhw, gael ei gyflwyno mor fuan ag yfory.
Ac eto ym Mhwllheli mi oedd 'na groeso yn enwedig gan bobl ifanc.
"Mae pobl ifanc yn stryglo cael tŷ a lot ohonan ni'n gorfod symud.
"Rhai wedi symud i Loegr a De Cymru jyst i gael tŷ a swydd."
"Dw i'n cytuno bod gymaint o dai pen yma yn cael eu troi yn dai haf.
"Mae'n neud o'n anodd i bobl ifanc cael tŷ a ma' nhw'n symud allan."
Gyda'r farn yn gryf ar y ddwy ochr dydy o'n fawr o syndod fod ymgynghoriad y sir wedi denu bron i 4,000 o ymatebion gan drigolion.
Ond gyda 65% o bobl leol yma wedi eu prisio allan o'r farchnad mae 'na obaith gan rai y bydd penderfyniad heddiw yn gam i'r cyfeiriad cywir.