Sesiwn Fawr Dolgellau: 'Penwythnos pwysig yn economaidd i'r dref'
Gyda Sesiwn Fawr Dolgellau yn dychwelyd ddydd Iau am benwythnos o fwrlwm cerddorol, mae un o aelodau pwyllgor yr ŵyl wedi dweud ei bod hi'n "benwythnos pwysig yn economaidd i'r dref ac i'r ardal ehangach".
Bydd dros 50 o fandiau yn chwarae ar draws 11 llwyfan yn y dref eleni, sef y nifer uchaf o fandiau a llwyfannau ers i'r ŵyl symud o’r Marian yn ôl i ganol Dolgellau.
Yn ôl Ywain Myfyr, sef Cadeirydd Pwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau, ni fyddai'r ŵyl yn bodoli heb gefnogaeth pobl fusnes y dref.
"Ma'i 'di dychwelyd mewn gwirionedd fel gŵyl gymunedol yng ngwir ystyr y gair a ma'r cydweithio 'dan ni'n gael efo'r busnese lleol yn wych," meddai wrth Newyddion S4C.
"Mae'n benwythnos pwysig yn economaidd i Ddolgellau, nid yn unig i'r dref ond hefyd i ardal De Meirionnydd neu De Gwynedd. Mae'r busnese bellach a ninne yn cydweithio yn un uned hapus."
'Dod â'r byd i Ddolgellau'
Bydd cyfuniad o artistiaid lleol, rhai o enwogion mwyaf Cymru ac artistiaid rhyngwladol yn rhan o'r ŵyl eleni.
Bydd y bandiau lleol, gan gynnwys David Bradley a Melda Lois, yn cael y cyfle i berfformio yn ogystal â cherddorion o bedwar ban byd, gan gynnwys David Pasquet, cerddor gwerin o Lydaw, Raz & Afla, deuawd Afro-house wedi eu lleoli yn Llundain, a N'Famady Kouyaté, sy'n wreiddiol o Guinea ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Ychwanegodd Ywain Myfyr: "Dwi'n meddwl bod hynny yn hollbwysig, ma'i 'di bod mor braf gweld cymaint o wyliau yn codi yng Nghymru yr haf yma ond ma' Sesiwn Fawr yn ymfalchïo yn y ffaith bod ni'n gallu denu y gorau o Gymru ond hefyd y gorau o gerddoriaeth byd.
"'Dan ni'n ymfalchïo mewn gwirionedd bod genna ni chydig bach o wahaniaeth a dwi'n meddwl bod ein cynulleidfa ni bellach yn ymwybodol o hynny ac yn trustio ni.
"Nid yn unig 'dan ni'n gwadd y gore o gerddoriaeth Cymru ond 'dan ni hefyd yn ceisio rhoi llwyfan i gerddoriaeth byd yn ogystal, 'dan ni'n dod â'r gore o'r byd i Ddolgellau.
"Mae'r gerddoriaeth hefyd yn mynd i fod yn byrlymu ymhob twll a chornel b'nawn Sadwrn ac wrth gwrs, mae'n rhaid cofio bod y prynhawn Sadwrn yn rhad ac am ddim i bawb."
Yn dilyn y llwyddiant o ychwanegu noson i'r ŵyl y llynedd, bydd yr un peth yn digwydd eleni, gyda gig agoriadol yn Eglwys y Santes Fair yng nghwmni Meinir Gwilym a Pedair nos Iau.
"Mae'n braf iawn mewn gwirionedd cael pedwar diwrnod o wyl felly mae o'n rhywbeth sydd yn dod â'r dref yn fyw efo cerddoriaeth ac yn atseinio o'r waliau cerrig llwyd ac yn rhoi 'chydig bach o liw i'r dref dros y penwythnos," meddai Ywain Myfyr.
"Mae'n wyl unigryw, ma' hi wedi esblygu drwy sawl newid ac yn mynd o nerth i nerth dwi'n gobeithio."