Newyddion S4C

Y drydedd don ddim 'mor niweidiol', ond angen 'dysgu byw' gyda Covid-19

05/07/2021

Y drydedd don ddim 'mor niweidiol', ond angen 'dysgu byw' gyda Covid-19

Wrth i’r Gwasanaeth Iechyd ddathlu 73 o flynyddoedd ers ei sefydlu, mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi dweud fod y llywodraeth yn “raddol hyderus” ni fydd y drydedd don o Covid-19 yn achosi’r un lefel o niwed â thonnau blaenorol. 

Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Llun, dywedodd Eluned Morgan fod achosion Covid-19 yn yr ysbyty o dan 100 drwy'r wlad.

Er hyn, dywedodd y Gweinidog Iechyd ynghyd â Prif Weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall, fod y nifer o achosion yn sgil amrywiolyn Delta, yn enwedig mewn ardaloedd yng ngogledd Cymru, yn uchel iawn.

Erbyn hyn, mae’r gyfradd o achosion wedi cynyddu i 95.6 fesul 100,000 o’r boblogaeth yng Nghymru.

“Nid yw Cymru ar ben ei hun yn y nifer o achosion sydd yn cynyddu,” dywedodd Eluned Morgan.

“Rydym ni yn dal i fod wythnosau ar ôl Lloegr a’r Alban. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi ein rhybuddio fod yna achosion newydd yn Ewrop wedi cynyddu yn y 10 wythnos ddiwethaf.

“Ond rydym yn raddol hyderus fe fydd y don bresennol ddim yn cyrraedd yr un lefel o salwch difrifol a niwed â thonnau blaenorol rydym ni wedi gweld yng Nghymru.

“Mae hyn oherwydd y broses brechu wych sydd wedi cael ei gynnig gan y GIG.”

Ychwanegodd  y bydd "angen i ni ddysgu byw gyda'r haint yma."

"Yr hyn na fedrai ei roi i chi yw unrhyw sicrwydd mai dyma ddiwedd y daith. Nid ydym yn gwybod os bydd amrywiolyn yn dianc rhag ein brechiadau."

Dywedodd hefyd nad oedd modd cynnig sicrwydd na fyddai unrhyw gyfnodau clo pellach yn y dyfodol, ac roedd yn rhy gynnar i wneud penderfyniad ar gael gwared ar fygydau mewn mannau cyhoeddus.

'Llawer iawn o staff wedi blino'

Er hyn, ychwanegodd Dr Andrew Goodall fod y gwasanaeth iechyd yn parhau i fod o dan bwysau.

“Mae’r 16 mis diwethaf wedi bod yn hynod o anodd i’n gwasanaeth iechyd,” dywedodd.

“Mae gennym llawer iawn o staff sydd wedi blino a gyda chyn lleied o amser i wella yn sgil effaith y pandemig.

“Ar ddiwedd wythnos diwethaf, roedd 86% o welyau ysbyty yn llawn – rhan fwyaf ohonyn nhw ddim yn gyswllt i Covid.

“Mae’r angen am ofal ar frys yn ôl i’w lefelau cyn Covid, ar adegau mae hi’n brysurach.

“Mae hyn i gyd yn digwydd, er dydi coronafeirws ddim wedi diflannu.”

Fe fydd adroddiad nesaf Llywodraeth Cymru ar gyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru ar 15 Gorffennaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.