Arestio dau ddyn wedi 'ymosodiad difrifol' yn Abertawe
17/07/2024
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio wedi ymosodiad difrifol yn Abertawe yn oriau mân fore Mercher.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod yr ymosodiad wedi digwydd ar Ffordd y Dywysoges yn y ddinas.
Mae un dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr sydd yn peri 'perygl i'w fywyd'.
Mae dyn 26 oed o Frome, Gwlad yr Haf, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol.
Mae dyn 27 oed o Gaerfaddon wedi cael ei arestio ar amheuaeth o anafu gyda bwriad.
Mae'r ddau ar hyn o bryd yn parhau yn y ddalfa.
Mae ardal o Ffordd y Dywysoges wedi cael ei chau wrth i archwiliad fforensig gael ei gynnal.