
Lluniau: Y gwasanaethau brys yn ymateb i dân mewn hen ysgol yn Llandysul
Lluniau: Y gwasanaethau brys yn ymateb i dân mewn hen ysgol yn Llandysul
Mae'r gwasanaethau brys wedi ymateb i dân mewn hen ysgol yn Llandysul.
Dywedodd Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod nhw wedi cael eu galw am 07:40 fore Mercher i ddigwyddiad ar Ffordd Penwalle.
Ymatebodd criwiau tân o Landysul, Castell Newydd Emlyn, Llanbedr Pont Steffan, Cei Newydd, Port Talbot, Aberystwyth a Chaerfyrddin i'r digwyddiad.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1813571268441985473
Dywedodd y gwasanaethau brys fore dydd Mercher bod criwiau wedi ymateb i adeilad sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ac sydd ar dân.
Mae strwythur to'r adeilad wedi dymchwel yn fewnol.
Gadawodd y gwasanaethau brys y safle am 13.40.




Canabis
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth dau ddyn bledio'n euog i gyhuddiadau cyffuriau wedi i blanhigion canabis gwerth £2m gael eu darganfod ar safle yr hen ysgol yn Llandysul.
Fe stopiodd swyddogion Dyfed-Powys Police oedd yn teithio drwy Gaerfyrddin ar ddydd Gwener 4 Gorffennaf a darganfod pum cês yn llawn canabis.
Cafodd y ddau, oedd wedi teithio o Lundain i Geredigion, eu harestio.
Yn dilyn ymchwiliadau pellach fe gafodd gwarant ei ddefnyddio i archwilio adeilad hen ysgol yn Llandysul, lle cafwyd hyd i 1,500 o blanhigion canabis ar ddau lawr o'r adeilad.
Mae'r heddlu'n credu bod y cyffuriau werth hyd at £1,960,000.
Cafodd Alfred Perkola, 43 oed, o Ealing yn Llundain, a Adli Gjegjaj, 25 oed o Salford, eu cyhuddo o fod â chyffuriau yn eu meddiant gyda'r bwriad o'u dosbarthu.
Plediodd y ddau yn euog mewn gwrandawiad llys.
Prif lun gan Cat Dafydd.