Rygbi: Regan Grace i chwarae dros Gymru yn ei gêm gyntaf yn rygbi’r undeb
Bydd Regan Grace yn chwarae dros Gymru yn ei gêm gyntaf erioed yn rygbi’r undeb, wedi iddo gael ei ddewis yn y tîm i wynebu Queensland Reds ddydd Gwener.
Nid yw’r asgellwr, sydd yn cynrychioli Caerfaddon, wedi chwarae mewn gêm gystadleuol yn y gamp, ond fe fydd yn cychwyn dros ei wlad yn eu gêm olaf dros yr haf.
Fe wnaeth ei enw yn rygbi’r gynghrair, gan sgorio 89 o geisiau dros St Helen yn ystod gyrfa ddisglair.
Penderfynodd newid i’r gamp 15 bob ochr yn 2022, ond nid yw wedi chwarae gêm eto oherwydd anafiadau.
Cory Hill fydd yn gapten ar y tîm, wrth i Gatland wneud sawl newid yn dilyn y ddwy golled yn erbyn Awstralia.
Tîm Cymru yn erbyn Queensland Reds
15. Cameron Winnett (Caerdydd – 7 cap)
14. Rio Dyer (Dreigiau – 22 cap)
13. Nick Tompkins (Saraseniaid – 38 cap)
12. Eddie James (Scarlets – 1 cap)
11. Regan Grace (Caerfaddon –heb gap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 15 cap)
9. Gareth Davies (Scarlets – 77 cap - is-gapten)
1. Kemsley Mathias (Scarlets – 4 cap)
2. Evan Lloyd (Caerdydd – 5 cap)
3. Archie Griffin (Caerfaddon – 3 cap)
4. Matthew Screech (Dreigiau – 2 cap)
5. Cory Hill (Secom Rugguts – 34 cap – capten)
6. Christ Tshiunza (Caerwysg – 12 cap)
7. Taine Plumtree (Scarlets – 5 cap)
8. Mackenzie Martin (Caerdydd – 4 cap)
Eilyddion
16. Efan Daniel (Caerdydd – heb gap)
17. Corey Domachowski (Caerdydd – 10 cap)
18. Harri O’Connor (Scarlets – 4 cap)
19. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 19 cap)
20. Tommy Reffell (Caerlŷr – 20 cap)
21. Kieran Hardy (Gweilch – 23 cap)
22. Ben Thomas (Caerdydd – 4 cap)
23. Mason Grady (Caerdydd – 14 cap)