Arestio dyn 51 oed ar amheuaeth o lofruddio menyw yng Ngheredigion
17/07/2024
Mae dyn 51 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio menyw 45 oed yng Ngheredigion.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i amgylchiadau marwolaeth menyw 45 oed yn ardal Aberarth ar ddydd Llun, 1 Gorffennaf.
Mae teulu'r fenyw wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb esboniad ac mae ymholiadau yn parhau.
Mae dau ddyn, 65 a 29 oed, ac un fenyw 48 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Maent wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.