Chwyddiant yn aros ar 2%
Mae'r gyfradd chwyddiant wedi aros ar 2% ym mis Mehefin yn ôl ffigyrau Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
2% oedd targed Banc Lloegr a dyma oedd y ffigwr ym mis Mai hefyd.
Doedd y gyfradd heb newid yn rhannol am fod prisiau gwestai wedi cynyddu. Mae rhai arbenigwyr hefyd yn dweud bod cynnydd mewn costau fel torri gwallt a bwytai wedi cael effaith.
Mae'r ffigwr o bwys i economegwyr Banc Lloegr a fydd yn cwrdd ddechrau Awst er mwyn penderfynu a fyddan nhw yn torri cyfraddau llog.
Mae cyfraddau llog, sydd yn effeithio ar faint o forgais mae'n rhaid i rywun dalu, wedi aros ar 5.25%.
Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys Darren Jones bod y newyddion i'w "groesawu" ond bod prisiau yn "parhau yn uchel i deuluoedd ar draws Prydain".