Newyddion S4C

Cadarnhau cynlluniau i 'gefnogi ffermwyr' cyn cyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Protest Ffermwyr / Huw Irranca-Davies

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau'r cynlluniau fydd ar gael i 'gefnogi ffermwyr a pherchnogion tir' cyn i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy gael ei gyflwyno yn 2026. 

Cyhoeddodd y gweinidog amaeth Huw Irranca-Davies ym mis Mai y bydd yn oedi gweithredu cynlluniau dadleuol ar gyfer ffermydd wedi protestiadau.

Bydd y cyfnod pontio i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn dechrau yn 2026 yn hytrach nag mis Ebrill 2025.

Mae elfennau o’r cynllun, gan gynnwys yr angen i neilltuo 10% o dir ffermydd ar gyfer coed, wedi bod yn ddadleuol. 

Fe wnaeth 5,000 o bobol brotestio y tu allan i’r Senedd yn erbyn elfennau o’r cynllun ym mis Chwefror. 

Wrth siarad ar drothwy'r Sioe Fawr, dywedodd Mr Irranca-Davies y bydd y cyfnod paratoi yn 2025 yn cynnwys nifer o gynlluniau i helpu ffermwyr. 

Mae'r rhain yn cynnwys Cynllun Cynefin Cymru a fydd yn cael ei gynnig yn 2025, gyda phob ffermwr cymwys yn cael gwneud cais.

Bydd Cyswllt Ffermio yn cael ei ymestyn tan 2026, a fydd yn parhau i roi cymorth i ffermwyr i arloesi eu ffermydd. 

Bydd y Taliad Cymorth Organig hefyd yn cael ei gadw ar gyfer 2025. 

'Sicrwydd i ffermwyr'

Dywedodd Huw Irranca-Davies: "Bwriad cyhoeddi'r cynlluniau hyn yw rhoi sicrwydd i ffermwyr y bydd yna gymorth iddyn nhw yn y cyfnod cyn 2026.

"Rydyn ni'n cydnabod hefyd y bydd y newid o'r BPS yn golygu newid mawr i lawer o ffermwyr, ac felly rydyn ni am helpu, tywys a chynnal ffermwyr Cymru dros gyfnod o flynyddoedd wrth i ni gwblhau a symud tuag at yr SFS.

"Rydyn ni am weld diwydiant ffermio cynaliadwy sy'n cefnogi cymunedau gwledig ffyniannus a'r iaith Gymraeg - cynaliadwy ym mhob ystyr y gair."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.