Dau o Brydain 'ar goll yn Sweden' wedi i gyrff gael eu darganfod mewn car
Mae dau ddyn 'ar goll yn Sweden' wedi i ddau gorff gael eu darganfod mewn car yn y wlad yn ôl y Swyddfa Dramor.
Dywedodd heddlu yn Sweden eu bod yn lansio ymchwiliad llofruddiaeth. Daw hyn wedi i ddau o gyrff gael eu darganfod wedi eu saethu'n farw mewn car oedd wedi ei rentu gan Brydeiniwr yn Sweden.
Yn ôl papur newydd cenedlaethol Sweden, Aftonbladet, fe gafodd y car ei rentu o faes awyr Copenhagen. Fe wnaeth y gyrrwr wedyn a theithiwr arall yrru ar draws y ffin rhwng Denmarc a Sweden ac i mewn i ddinas Malmo.
Dywedodd Heddlu Sweden fod y ddau wedi cael eu saethu ddydd Sul cyn i'r car gael ei roi ar dân mewn ardal ddiwydiannol o'r ddinas yn ne'r wlad.
Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn parhau i geisio adnabod y cyrff yn ffurfiol.
Yn ôl papur newydd Aftonbladet, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu mai'r gred yw nad yw'r ddau gorff yn "ddinasyddion o Ddenmarc".
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor wrth y BBC fod dau ddyn o Brydain ar goll yn Sweden.
"Rydym yn cefnogi teuluoedd dau ddyn o Brydain sydd ar goll yn Sweden ac mewn cyswllt gyda'r awdurdodau lleol," medden nhw.