Anafiadau difrifol i ddarpar briodferch wedi ffrwydrad ym Mharis

Mae darpar briodferch wedi cael anafiadau difrifol ar ôl ffrwydrad mewn clwb nos poblogaidd ym Mharis.
Roedd Ffion Price, o Gwmbrân, yn dathlu ei pharti plu ym mhrifddinas Ffrainc pan ddigwyddodd y ddamwain “erchyll”.
Batri sgwter trydanol yn ffrwydro ar bedwerydd llawr clwb nos Pachamama, achosodd y ddamwain.
Cafodd tri pherson eu hanafu, yn cynnwys Ffion.
Mae hi’n cael triniaeth mewn ysbyty ym Mharis, a hynny cyn ei phriodas, sydd mewn ychydig dros fis.
Dywedodd teulu Ffion ei bod hi wedi torri ei phenglog a’i chlust. Roedd yna waedu ar ei hymennydd oedd angen llawdriniaeth ar unwaith ac ymweliad i uned gofal dwys. Mae hi hefyd wedi cael llawdriniaeth i'w hwyneb.
Ychwanegodd y teulu: “Mae Ffion yn aros yn yr ysbyty ym Mharis gyda’i theulu wrth ei hymyl hi, a does dim disgwyl iddi ddychwelyd tan wythnos nesaf o leiaf.
"Yn ddealladwy, mae Ffion a’i theulu mewn trallod, yn enwedig gan ei bod hi a’i dyweddi Chris i fod i briodi fis nesaf.”
Yn ôl papur newydd Le Parisien, fe wnaeth rheolwr y clwb nos, Phillipe Fatien, gadarnhau bod 140 o bobl yn bresennol adeg y ffrwydrad.
Cafodd y clwb nos ei gau am tua 2.50am ddydd Sul, 7 Gorffennaf cyn ailagor y penwythnos canlynol.
Llun: Ffion Price