Newyddion S4C

Llafur 'i dynnu'r hualau' wrth gyflwyno Araith Y Brenin

17/07/2024
Brenin Charles

Mae Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig wedi dweud y bydd Llafur yn "tynnu'r hualau" pan fydd yn datgelu cynnwys Araith y Brenin ddydd Mercher.  

O dan arweinyddiaeth Syr Keir Starmer, mae disgwyl i'r Llywodraeth Lafur gyflwyno agenda ddeddfwriaethol lawn, gyda'r pwyslais ar "wella safonau byw a thyfu'r economi."  

Hon fydd yr araith gyntaf Llafur yn llywodraethu ers 14 mlynedd.

Y disgwyl yw bydd 35 bil a biliau drafft ynddi, yn canolbwyntio ar feysydd fel trafnidiaeth a chreu swyddi.

Wrth siarad cyn yr araith a fydd yn agor y Senedd newydd, dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig: "Nawr yw'r amser i dynnu'r hualau..."

“Am gyfnod yn rhy hir, mae pobol wedi cael eu dal yn ôl, eu llwybrau yn ddibynnol ar eu hardal enedigol, yn hytrach na'u talentau a'u gwaith caled.

“Rwy'n benderfynol o greu cyfoeth ar gyfer bobol ym mhobman."  

35 bil 

Gyda disgwyl 35 bil, yr araith ddydd Mercher fydd un o'r rhai mwyaf cynhwysfawr ers sawl blwyddyn.

Un o'r biliau sy'n debygol o gael eu cyflwyno ydy cyfreithiau newydd i ail-wladoli’r rheilffyrdd erbyn 2029, fel nad ydynt o dan berchnogaeth cwmnïau preifat bellach.

Mae disgwyl i nifer o gytundebau rheilffyrdd ddod i ben erbyn diwedd 2025, tra bo eraill i fod i barhau tan y degawd nesaf.

Mae disgwyl bil Datganoli Saesnig hefyd a fyddai'n trosglwyddo mwy o bwerau o San Steffan i ranbarthau Lloegr , yn ogystal â "hwb" i hawliau gweithwyr.  

Dywedodd Syr Keir Starmer: “Bydd cyfreithiau newydd heddiw yn cymryd rheolaeth yn ôl, gan osod y sylfaeni ar gyfer newid go iawn, gan greu cyfoeth ym mhob cymuned a gwneud pobl yn fwy llewyrchus - wrth gefnogi eu dyheadau, gobeithion a breuddwydion."

Cyn y seremoni, bydd Catrawd y Marchoglu yn hebrwng y Brenin Charles yn ystod ei daith i San Steffan fore Mercher cyn iddo dderbyn ei goron a'i ddillad seremonïol.

Ar ôl hynny, bydd y Brenin yn mynd i Dŷ'r Arglwyddi ac yn eistedd ar yr orsedd am 11:30.

Unwaith bydd ASau wedi cyrraedd y siambr, bydd y Brenin yn dechrau ei araith a fydd yn amlinellu blaenoriaethau'r Llywodraeth Lafur.

Bydd dadl ar araith y Brenin yn dechrau yn Nhŷ’r Cyffredin am 14.30 ddydd Mercher ac fel arfer yn parhau am hyd at chwe diwrnod, gyda disgwyl pleidleisiau arni wythnos yn ddiweddarach.

Traddodiad 

Dywedodd Syr Lindsay Hoyle, llefarydd Tŷ'r Cyffredin bod cael bod yn rhan o'r digwyddiad yn "fraint."

“Mae’n un o’r digwyddiadau gwych, mae pobl ledled y byd yn gwylio hwn, ac mae bod yn rhan ohono yn fraint lwyr," meddai.

“Wrth gwrs rydyn ni’n moderneiddio mewn meysydd eraill, ond mae traddodiad hefyd yn bwysig a rhan o hyn yw traddodiad y Tŷ y mae pobl yn edrych ymlaen ato.”

Llun: Leon Neal/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.