Bil Addysg Gymraeg newydd 'yn rhoi cyfle i bob plentyn yng Nghymru ddod yn siaradwyr Cymraeg'
Bil Addysg Gymraeg newydd 'yn rhoi cyfle i bob plentyn yng Nghymru ddod yn siaradwyr Cymraeg'
"Mae gyda chi pedwar mewn rhes."
Gwers Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Cas-gwent. Mae cyflwyno mwy o Gymraeg mewn ysgolion Saesneg yn un o'r ffyrdd mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ond mae'n rhaid cael digon o athrawon i wneud hynny. Athrawon fel Angharad Jones.
"Roedd pobl yn arfer dweud Angharad Bethan Jones wyt ti, wyt ti'n gallu siarad Cymraeg? Nac ydw, does dim Cymraeg gyda fi."
Doedd hi ddim yn siarad Cymraeg tan wneud cwrs Cymraeg mewn blwyddyn dair blynedd yn ôl. A hithau bellach yn rhugl mae Angharad yn arwain y gwaith o gyflwyno mwy o Gymraeg yn yr ysgol.
"Gall athrawon wneud gwahaniaeth mawr wrth drosglwyddo'r iaith i'r genhedlaeth nesaf. Mae'n bwysig bod fi'n model rôl hefyd. Dw i wedi dysgu, felly, maen nhw'n gallu dysgu."
Mae myfyrwyr Blwyddyn 9 yn cytuno.
"The quality of Welsh we learn is better now than compared to primary. We should learn more than the basics and should push to make an effort to speak Welsh."
"To be able to talk to a boss in Welsh would be pretty cool and use it like I do every day with English would be good."
Mae'r Llywodraeth yn dweud y bydd y Bil Addysg Gymraeg yn rhoi cyfle i bob plentyn yng Nghymru ddod yn siaradwyr Cymraeg.
"Beth sydd wrth wraidd y bil yw'r ffaith bod pobl yn gallu dewis addysg mewn ysgol o ba bynnag cyfrwng maen nhw eisiau a dal yn sicrhau bod nhw'n gadael yr ysgol yn medru siarad Cymraeg.
"Ni ddim yn y man yna heddiw yn anffodus. Mae angen cymorth ar yr ysgolion i wneud hynny. Cymorth o ran recriwtio athrawon ac mewn ffyrdd eraill.
"Rwy'n credu bod gosod yr uchelgais honno ar draws y system addysg pa bynnag gyfrwng yw'r ysgol yn un sy'n drawsnewidiol."
"Maen nhw wedi cwtogi arian i'r sefydliad."
Tra'n croesawu'r ewyllys da, mae mudiad Dyfodol i'r Iaith yn poeni na fydd modd cyrraedd targedau'r Llywodraeth heb fwy o ysgolion Cymraeg. Maen nhw hefyd yn poeni'n fawr fod y bil yn newid ystyr addysg Gymraeg.
"Un peth sy'n wneud y bil yma'n gwbl gamarweiniol neu twyllodrus ac efallai peryglus yw bod nhw'n ailddiffinio addysg Gymraeg.
"Yn ôl y bil yma, darpariaeth Gymraeg. Gall fod yn wers Gymraeg mewn ysgol Saesneg yw eu diffiniad nhw o addysg Gymraeg. Trwy'r bil, maen nhw'n defnyddio addysg Gymraeg i olygu darpariaeth Gymraeg mewn addysg ysgolion Saesneg.
"Hollol dwyllodrus a dw i bendant am weld hwnna'n cael ei newid."
Mae 'na fwriad i sicrhau bod addysg drochi ar gael ar draws y wlad. Mae Dyfodol i'r Iaith yn cwestiynu a fydd hynny'n ymarferol heb ddigon o athrawon sy'n medru'r iaith.
Mae'r Llywodraeth yn cydnabod bod hynny'n broblem. Mae'r bil, meddai'r Llywodraeth yn brosiect hirdymor.
Mae nifer yn teimlo ei bod yn cymryd siawns gyda'r iaith a bod 'na ormod yn y fantol.