Newyddion S4C

Cadarnhad mai corff Jay Slater a gafodd ei ddarganfod ar ynys Tenerife

16/07/2024
Jay Slater

Mae'r heddlu yn Tenerife wedi cadarnhau mai corff Jay Slater oedd yr un a gafodd ei ddarganfod ar yr ynys ddydd Llun. 

Dywedodd yr heddlu fod gweddillion dynol wedi cael eu darganfod yn agos i le aeth y llanc 19 oed ar goll.

Dywedodd llefarydd mewn llys yn Tenerife ddydd Mawrth fod olion bysedd o brawf post-mortem wedi cadarnhau mai corff Mr Slater oedd yr un gafodd ei ddarganfod. 

Diflannodd y llanc o Oswaldtwistle, Sir Gaerhirfryn tra ar wyliau ar yr ynys ar 17 Mehefin.

Ychwanegodd yr heddlu mai "trawma" oedd achos ei farwolaeth, wedi iddo ddisgyn mewn ardal garegog".

Cafodd Mr Slater ei weld ddiwethaf ar lwybr ar dir mynyddig ym mharc cenedlaethol Rural de Teno ar 17 Mehefin.

Ar ôl gadael gŵyl gerddoriaeth NRG yng nghlwb nos Papagayo, aeth i mewn i gar gyda dau ddyn roedd wedi eu cyfarfod, gan deithio i ardal y parc cenedlaethol yng ngogledd-orllewin Tenerife.

Y bore canlynol, cafodd ei weld yn gofyn am amseroedd bws mewn pentref anghysbell, cyn iddo ddechrau cerdded oddi yno.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.