Newyddion S4C

Tafwyl: Mynediad am ddim yn 'bwysig iawn' er gwaethaf heriau ariannol

16/07/2024

Tafwyl: Mynediad am ddim yn 'bwysig iawn' er gwaethaf heriau ariannol

Paratoadau munud olaf cyn croesawu stondinwyr, bandiau a pherfformwyr.

"Mae 'di tyfu eto eleni.

"Blwyddyn diwetha wnaethon ni symud allan o'r castell i Barc Biwt.

"Mae'r safle yn mynd ymhellach nag o'dd hi y llynedd.

"Mae'r ardal plant, yr ardal Bwrlwm reit lawr tua'r cefn ond mae'n ardal hyfryd wrth y coed ac yn braf iawn."

Mae'r brifddinas wedi hen arfer a chynnal digwyddiadau cerddorol mawr.

Mae Stadiwm y Principality a Chastell Caerdydd eisoes wedi denu rhai o sêr mwya'r byd eleni.

Ond nid pawb sydd yn yr un sefyllfa.

Ar draws y Deyrnas Unedig, mae tua 50 o wyliau wedi'u canslo eleni gyda chynnal digwyddiadau'n dod a heriau mawr.

"Mae'r her yn anferth, mae'n amlwg.

"Fel bob gŵyl arall mae arian yn brin, yn enwedig yn y sefyllfa ni ynddi ar hyn o bryd.

"A'r gamp i ni yw trio diogelu ffynonellau o bob math.

"Ni'n ffodus iawn o incwm masnachol cefnogaeth y byd busnes yng Nghaerdydd a noddwyr cenedlaethol."

Mae'r ffaith bod mynediad am ddim yn un o'r ffactorau sy'n denu pobl.

Sut mae cynnal hynny dros y blynyddoedd?

"Mae'n bwysig iawn bod hi yn parhau'n ŵyl am ddim.

"Ni 'di gwneud gwaith ymchwil ynglŷn â pobl yn talu i ddod i'r ŵyl.

"Yr hyn sy'n amlwg yw y bydden ni'n colli'n gynulleidfa darged ni.

"Rhieni sy wedi ymddiried eu plant i'r sector Cymraeg ac yn ddi-Gymraeg."

Drwy gydol yr wythnos, mae'r digwyddiadau wedi dechrau gan gynnwys gig ieuenctid sy'n digwydd yng Nghlwb Ifor.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae criw o fentoriaid wedi gweithio gyda bandiau o ysgolion yn y prosiect, Yn Cyflwyno.

Mae'r noson hon yn gyfle iddynt arddangos eu talent.

"Mae'r pump wythnos diwethaf wedi bod yn galed iawn gyda'r broses ymarfer, ysgrifennu caneuon a cyfansoddi."

"Roedd yn hynod ddiddorol ac yn hwyl i ddysgu sut i greu cerddoriaeth.

"Mae'n help i gael ein enw mas ac yn help gyrraedd diwydiant Cymraeg gyda'r iaith Gymraeg.

"Mae'n help massive, yn codi ymwybyddiaeth ac yn cael mwy o bobl i wneud e bob blwyddyn."

Mae'r bandiau ifanc yn gobeithio gosod eu marc a gallen nhw fod ar un o'r prif lwyfannau mewn blynyddoedd i ddod.

Mae'r brifddinas yn barod i ddenu'r torfeydd am flwyddyn arall.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.