Newyddion S4C

Galw am ysgol uwchradd Gymraeg yn ne Caerdydd

16/07/2024

Galw am ysgol uwchradd Gymraeg yn ne Caerdydd

Sain samba yn gyfeiliant i alwad teuluoedd am bedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg i Gaerdydd a honno yn ne'r brifddinas.

Roedd y trafferth gafodd rhai o rieni'r ardal hon i sicrhau lle yng Nglantaf eleni, yn ysgogiad i alw am ysgol newydd.

"Mae disgwyl i addysg Gymraeg fod yn hygyrch ac yn hawdd ac os ydyn ni o ddifri bod y Gymraeg i bawb fel sydd yn lot o lenyddiaeth polisiol y Cyngor Sir ac wrth gwrs Llywodraeth Cymru mae angen dangos hynny'n ymarferol."

Yn ôl rhieni mae angen ysgol i wasanaethu cymuned aml ddiwylliannol de'r brifddinas.

"We want our children to grow up in a diverse area with different cultures and communities and if we can bring Welsh as part of that, that's what we want.

"We worry without a school in the south of the city, it won't happen."

"Hawl ydy o. Hawl i bob plentyn gael mynediad i addysg Gymraeg.

"'Dan ni'n brwydro dros hawliau ein plant yma, ie."

Parti hapus i chi gyd!

Mae rhai'n poeni na fydd plant sy'n dibynnu ar fws ysgol yn gallu manteisio ar weithgareddau allgyrsiol yng Nglantaf am ei fod yn bell o'r Bae.

"Ni'n teimlo bod y plant yn haeddu rhywbeth ar eu stepen drws nhw fel bod nhw'n gallu mynychu clybiau ar ôl ysgol a bod yn rhan o gymuned yr ysgol achos mae'r ysgol yn rhan o gymuned ac mae 'na garfan o rieni ddim yn hala eu plant i ysgolion Cymraeg achos bod nhw'n poeni am ble ma' nhw'n mynd i'r ysgol Uwchradd.

"Mae 'na garfan yn cael eu colli yn fan'na.

"Mae 'na rai sydd ddim yn gwybod ei fod e ar gael.

"Os ni'n mynd i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 mae'n rhaid creu galw."

Mae'r Cyngor yn dweud eu bod wedi ymrwymo i gefnogi twf yr iaith ac addysg Gymraeg ym mhob rhan o'r ddinas ond bod dim digon o blant yma ar hyn o bryd i gynnal pedwaredd ysgol.

Mae llefydd gwag yn rhoi pwysau ar gyllidebau ysgolion.

Felly mae'n rhaid cynllunio'n ofalus.

Gawn ni ysgol yw'r gri yn Ne Caerdydd.

Does dim angen yw ateb y Cyngor ar hyn o bryd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.