Gareth Southgate yn gadael ei swydd fel rheolwr Lloegr
Mae Gareth Southgate wedi gadael ei swydd fel rheolwr tîm pêl-droed Lloegr.
Daw'r newyddion wedi i Loegr golli yn ffeinal Euro 2024 o 2-1 yn erbyn Sbaen nos Sul.
Mae wedi bod wrth y llyw ers wyth mlynedd ac mae'r tîm wedi cyrraedd rownd derfynol yr Ewros ddwywaith o dan ei arweinyddiaeth, eleni ac yn 2020.
Fe gyrhaeddodd Lloegr rownd gyn derfynol Cwpan y Byd yn 2022.
Mewn datganiad, dywedodd Southgate: "Fel Sais balch, mae hi wedi bod yn anrhydedd fy mywyd i chwarae a rheoli Lloegr.
"Mae wedi golygu popeth i mi, a dwi wedi gwneud fy ngorau.
"Ond mae'n amser am newid, ac am bennod newydd."
Enillodd Southgate 61 o'i 120 o gemau wrth y llyw fel rheolwr.
Chwaraeodd 57 gwaith dros ei wlad hefyd rhwng 1995 a 2004.