Newyddion S4C

Ofwat yn craffu ar yr 11 cwmni dŵr

Afon Gwy

Mae'r rheoleiddiwr dŵr Ofwat wedi dweud eu bod yn craffu ar yr 11 o gwmnïau dŵr sy’n bodoli yng Nghymru a Lloegr.

Daw hyn wrth i’r corff ymchwilio i’r ffordd mae’r sector yn ymdrin â charthion.

Yn ôl Prif Weithredwr Ofwat, David Black mae hyn yn “dangos pa mor bryderus ydyn ni am berfformiad amgylcheddol y sector”.

Maen nhw hefyd wedi rhoi rhybudd swyddogol i’r pedwar arall- Dŵr Cymru, Hafren Dyfrdwy, Severn Trent ac United Utilities.

Mae hynny yn golygu fod y rheoleiddiwr wedi casglu tystiolaeth ac wedi darganfod bod yna bosibilrwydd bod y cwmnïau ddim wedi cadw at eu hymrwymiad i ddiogelu’r amgylchedd. Fe allai arwain at ddirwyon.

Ym mis Tachwedd 2021 fe ddechreuodd Ofwat ymchwilio'r ffordd roedd y cwmnïau yn ymdrin â charthion. Maent wedi rhoi dirwyon gwerth £300 miliwn i’r rhai sydd ddim wedi glynu at eu hymrwymiad cyfreithiol. 

Mae Ofwat yn barod wedi rhoi mesurau gorfodol yn eu lle ar gyfer Anglian Water, Northumbrian Water, South West Water, Thames Water, Wessex Water a Yorkshire Water ac yn parhau i ymchwilio. Maent yn parhau i fonitro Southern Water.

Dywedodd David Black mai "dyma'r ymchwiliad mwyaf cynhwysfawr a chymhleth sydd wedi cael ei wneud gan Ofwat".

Ond ychwanegodd ei fod eisiau cwblhau'r ymchwiliadau "mor fuan â phosib" fel y gall y sector ganolbwyntio ar y cynllun gwerth £88 biliwn i "lanhau'r afonydd a'r moroedd."

 Llun o'r Afon Gwy. Fe gafodd statws yr afon ei hisraddio i ‘anffafriol-dirywio’ gan gyrff cyhoeddus Natural England a Chyfoeth Naturiol Cymru yn 2023 o ganlyniad i lygredd o ffermydd a charffosiaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.