Newyddion S4C

'Amddifadu' plant o'u hawl i addysg oherwydd eu hanabledd

16/07/2024
Arholiad TGAU

Mae “nifer sylweddol” o blant ledled Cymru yn cael eu “hamddifadu” o’u hawl i addysg yn sgil eu hanabledd, medd un o bwyllgorau’r Senedd. 

Mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, dywedodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg bod plant a phobl ifanc sydd ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol “yn cael cam” gan y system addysg. 

Dywedodd Buffy Williams AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mai’r “strwythur” sydd ar fai ac “nid athrawon na staff gofal plant unigol sy’n gwneud eu gorau glas er gwaetha’r strwythur.”

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd diwygiadau i'r sector addysg, yn ogystal â chynllun addysg plentyndod cynnar penodol, yn ceisio sicrhau "system gynhwysol sy'n gweithio i bob dysgwr ac sy'n lleihau anghydraddoldebau."

Clywodd y pwyllgor gan deuluoedd sydd wedi bod yn brwydro am addysg decach i’w plant, a rheiny wedi cael trafferth i gael mynediad at addysg gynhwysol a chymorth gofal plant addas. 

Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor, dywedodd Betsan Gower Gallagher – mam efeilliaid chwech oed ag awtistiaeth – fod yr adroddiad bellach yn “rhoi llais” i’w phlant. 

“Mae’r ymchwiliad hwn mor bwysig i rieni fel fi oherwydd bod fy mhlant yn ddi-eiriau, ond mae hyn yn rhoi llais iddyn nhw.

“Mae'n rhaid i ni frwydro a brwydro am hyd yn oed y pethau sylfaenol, fel addysg. 

“Ac nid oes unrhyw gymorth gofal plant yn ein hardal a all hwyluso anghenion fy mhlant dros yr haf - hyd yn oed ar gyfer gweithgareddau sy'n cael eu hysbysebu fel rhai cynhwysol, nid oes cyfleusterau digonol i'n cefnogi ni,” meddai. 

'Darpariaeth anghyson'

Yn ôl yr adroddiad, mae “nifer sylweddol” o hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu torri yng Nghymru ar hyn o bryd.  

Fe allai amddifadu plant a phobl ifanc o’u hawliau gael effaith parhaol ar eu llesiant emosiynol a’u hiechyd corfforol, noda'r ddogfen. 

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y gallai amddifadu plant o’u hawliau sylfaenol at addysg gael “effaith anfesuradwy ar eu teulu” – yn enwedig rhieni, gofalwyr a brodyr a chwiorydd.

"Darpariaeth anghyson" sy'n bodoli o safbwynt safon yr addysg ac mae hyn yn arwain at fod "loteri cod post ar waith". Mae hyn yn enwedig yn wir i'r plant sydd eisiau addysg yn y Gymraeg. 

"Lle mae darpariaeth dda yn bodoli, mae hynny oherwydd bod unigolion yn benderfynol, ac nid o ganlyniad i ddull gweithredu strwythurol," meddai'r adroddiad.

'Chwalu'r rhwystrau'

Mae’r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb i’r pum casgliad a’r 32 argymhelliad maen nhw wedi nodi yn y ddogfen. 

“Byddwn yn cadw llygad barcud ar y camau a gymerir a sut y maent yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad am weddill cyfnod y Senedd,” meddai Buffy Williams AS. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn parhau i weithio ar draws y llywodraeth a chyda'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i wrando ar blant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed." 

Mae'r datganiad yn dweud bydd y llywodraeth yn ystyried gwaith eu hunain wrth i'r sector addysg gael ei ddiwygio, a hynny "ochr yn ochr ag adroddiad ac argymhellion Pwyllgor y Senedd."

Mae gan blant a phobl ifanc anabl "hawl sylfaenol" at addysg ac mae'r llywodraeth wedi ymrwymo i "chwalu'r rhwystrau" meddai'r llefarydd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.