Merched Cymru i wynebu Kosovo yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025
Merched Cymru i wynebu Kosovo yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025
Bydd tîm pêl-droed merched Cymru yn wynebu Kosovo yn eu gêm olaf yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025 nos Fawrth.
Mae gêm gyfartal yn ddigon i Gymru er mwyn gorffen ar frig Grŵp B4.
Mae Jess Fishlock angen un gôl arall er mwyn torri record y chwaraewr sydd wedi sgorio'r mwyaf o goliau i Gymru.
Sgoriodd Fishlock gôl rhif 44 i Gymru yn y fuddugoliaeth yn erbyn Croatia ddydd Gwener, gan ddod yn gyfartal gyda Helen Ward o ran goliau.
Mae Kosovo ar waelod grŵp B4, wedi iddyn nhw golli pob un o'u pump o gemau hyd yma.
Byddai gorffen ar frig y grŵp yn hwb mawr i Gymru gan y byddai'n golygu osgoi chwarae yn erbyn rhai o'r timau cryfaf yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle.
Byddai hefyd yn sicrhau fod Cymru yn dychwelyd i haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd ar gyfer tymor 2025-26.
Wrth siarad cyn y gêm, dywedodd rheolwr Cymru Rhian Wilkinson: "Rydyn ni eisiau sicrhau chwe phwynt a byddwn yn annog y cefnogwyr i ddod allan i weld Jess Fishlock gartref, mae’n fraint na fydd yn parhau am byth."
Dywedodd capten Cymru Angharad James: "Ie mae Kosovo yn gêm, yn mynd i fod yn gêm anodd, o'n i'n gwybod pan o'n i allan yn Kosovo, yn enwedig yn yr hanner cyntaf, oedden nhw yn galed i torri lawr.
"A ni'n gwybod bod ni'n disgwyl hwnna nos yfory 'fyd ond ni'n gwybod os ni'n canolbwyntio ar ein hun, perfformiad ein hun, bydd ni'n gobeithio gallu cael y job wedi neud."