Newyddion S4C

Clybiau Cymru mewn safle cryf cyn ail gymal Ewrop

16/07/2024
Bala v Seintiau Newydd

Roedd hi’n wythnos lwyddiannus i glybiau Cymru yn Ewrop gyda tri o’r pedwar tîm yn ennill eu cymalau cyntaf yn rownd ragbrofol gyntaf Ewrop.

Dechreuodd y tymor newydd yn addawol nos Fawrth wrth i’r Seintiau sgorio tair gôl yn yr hanner cyntaf i ennill 3-0 gartref yn erbyn pencampwyr Montenegro, FK Dečić.

Yna, daeth ambell sioc nos Iau wrth i Gei Connah daro’n hwyr yn Slofenia i ennill 1-0 oddi cartref yn erbyn NK Bravo, cyn i Gaernarfon ennill 2-0 yn eu gêm gyntaf erioed yn Ewrop yn erbyn Crusaders o Ogledd Iwerddon.

Y Bala yw’r unig rai sydd ar ei hôl hi cyn yr ail gymal, wedi i dîm Colin Caton golli 2-1 yn Neuadd y Parc yn erbyn Paide Linnameeskond o Estonia.

FK Dečić (0) v (3) Y Seintiau Newydd | Nos Fawrth, 16 Gorffennaf – 20:00 

(Stadion Pod Goricom, Montenegro – Ail Gymal Rownd Ragbrofol Gyntaf Cynghrair y Pencampwyr 2024/25)

Mae’r Seintiau mewn safle delfrydol ar ôl buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 gartref yn erbyn pencampwyr Montenegro, FK Dečić nos Fawrth.

Yn sicr mae gan y Seintiau fwy o brofiad yn Ewrop na’u gwrthwynebwyr eleni, FK Dečić, sydd ond wedi chwarae dwy rownd flaenorol yn Ewrop, gan golli’r ddwy rownd hynny.

Y tymor diwethaf, fe lwyddodd FK Dečić i ennill pencampwriaeth Montenegro am y tro cyntaf yn eu hanes, ac felly eleni mae’r clwb o dref Tuzi, sy’n agos i’r ffîn gydag Albania, yn cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr am y tro cyntaf erioed.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ym mhrif ddinas Montenegro yn Stadion Pod Goricom ar nos Fawrth sef y stadiwm cenedlaethol ble bydd Cymru yn wynebu Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi.

Bydd enillwyr y rownd hon yn wynebu Ferencváros (Hwngari) yn yr ail rownd ragbrofol, tra bydd y collwyr yn syrthio i Gyngres Europa i herio Ludogorets Razgrad (Bwlgaria) neu Dinamo Batumi (Georgia).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.