Newyddion S4C

Cân i Gymru: S4C yn 'cyd-weithio' gydag ymchwiliad Ofcom

15/07/2024

Cân i Gymru: S4C yn 'cyd-weithio' gydag ymchwiliad Ofcom

Mae S4C wedi dweud eu bod nhw’n "cyd-weithio" gyda Ofcom wrth i'r rheoleiddiwr ymchwilio i drafferthion pleidleisio Cân i Gymru.

Dywedodd Ofcom ddydd Llun eu bod yn "ymchwilio i ddarganfod a wnaeth hyn dorri ein rheolau ar gystadlaethau darlledu a phleidleisio" yn sgil cwynion gan wylwyr.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran S4C: “Mae OFCOM wedi gwneud cais am wybodaeth am Cân i Gymru.

“Mae S4C yn cyd-weithio gydag OFCOM yn unol â’i cais.”

Mae S4C ac Afanti, cynhyrchwyr y rhaglen wedi derbyn cais am ymateb.

Wrth i’r gân 'Ti' gan Sara Davies gipio gwobr Cân i Gymru 2024 ar 1 Mawrth, mynegodd nifer fawr o bobol eu rhwystredigaeth ar X (Twitter gynt) a Facebook am nad oedden nhw wedi llwyddo i bleidleisio.

Er mwyn pleidleisio, roedd angen ffonio rhif 0900 sy’n codi pris fesul munud.

Ymddiheurodd S4C yn fuan wedi diwedd y rhaglen i'r rhai a fethodd â bwrw eu pleidlais.

Bythefnos ar ôl y gystadleuaeth, cadarnhaodd y sianel ar eu gwefan fod modd hawlio ad-daliad am bob galwad yn dilyn y neges gyntaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.