Gwasanaeth trên rheilffordd Llangollen i ailgychwyn

Rheilffordd Llangollen
Mae disgwyl i wasanaethau trên rheilffordd Llangollen ailgychwyn o ddydd Gwener ymlaen, ar yr amod ei fod yn pasio archwiliad.
Daw hyn ar ôl i gwmni Rheilffordd Llangollen PLC gyhoeddi yn mis Mawrth nad oedd yn gallu parhau i fasnachu'n gyfreithiol gan ei fod yn wynebu dyled o £350,000.
Mae menter Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen wedi ymgyrchu i achub y rheilffordd hanesyddol ac yn gobeithio ei ailagor. Yn ôl North Wales Live, fe fydd modd teithio o Langollen i'r Berwyn rhwng dyddiau Gwener a Sul.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Google