Angen addysg Gymraeg ar ‘gant y cant’ o blant ysgol er mwyn cyrraedd nod miliwn o siaradwyr
Byddai angen addysg Gymraeg ar “gant y cant” o blant ysgol Cymru er mwyn cyrraedd nod miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn ôl ymgyrchydd iaith.
Daw sylwadau Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith wrth i Ysgrifennydd y Gymraeg, Jeremy Miles osod Bil y Gymraeg ac Addysg gerbron y Senedd ddydd Llun.
Fe fydd, meddai, yn cyfrannu at y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yn y 25 mlynedd nesa' drwy gau’r bwlch o ran gallu disgyblion yn y Gymraeg erbyn iddynt adael yr ysgol.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud nad yw’r bil fel ag y mae, yn gwneud digon i gynnig addysg Gymraeg i holl bobl ifanc Cymru.
Dywedodd Toni Schiavone o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith mai’r unig ffordd o gyrraedd y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yw bod “cant y cant o’n plant yn cael addysg Gymraeg erbyn 2050”.
“Ein blaenoriaeth yn ystod y misoedd nesaf felly fydd cryfhau’r Bil drwy annog gwelliannau iddo yn ystod ei daith drwy’r Senedd er mwyn sicrhau yn y dyfodol na fydd yr un plentyn yn cael ei adael ar ôl," meddai.
‘Colli cyfle’
Dywedodd Ysgrifennydd y Gymraeg, Jeremy Miles, fod ei lywodraeth “wedi ymrwymo i gyfrannu at y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050”.
“Bydd y Bil yn cyflawni’r nod hynny drwy geisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol yn ddefnyddiwr Cymraeg annibynnol, o leiaf," meddai.
“Yn benodol, yr amcan yw i bob disgybl feithrin sgiliau llafar sydd gyfystyr â lefel B2, o leiaf, o’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd."
Ychwanegodd: "Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i adeiladu Cymru lle mae'r Gymraeg yn ffynnu ym mhob cymuned, a lle gall pob un fod yn falch o'u treftadaeth a'u sgiliau dwyieithog neu amlieithog."
Ymysg prif ddarpariaethau’r Bil fe fydd:
- yn rhoi sail statudol i’r targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
- yn cyflwyno gofynion o ran isafswm yr addysg Gymraeg sy’n cael ei ddarparu gan ysgolion;
- yn sefydlu corff statudol, sef yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol, fydd yn gyfrifol am gefnogi pobl (o bob oedran) i ddysgu Cymraeg.
Bydd Jeremy Miles yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y Senedd ddydd Mawrth, gan roi mwy o fanylion am y Bil.
Mae'r Bil hefyd yn mynd ati i sicrhau bod addysg drochi Gymraeg ar gael ar draws Cymru.
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle bod "ein dull o drochi dysgwyr yn y Gymraeg yn unigryw i ni yng Nghymru".
"Rwy'n ymfalchïo yn yr hyn y mae ein hathrawon yn ei wneud bob dydd. Mae’r Bil yn brosiect hirdymor a byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion i gyflwyno mwy o Gymraeg i'w gweithgareddau."
Ond dywedodd Osian Rhys o grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: “I ni, mae’r nod yn glir: addysg Gymraeg i bawb, fel bod pob un plentyn yn gadael yr ysgol yn hyderus yn yr iaith.
“Mae’r Bil yn ei ffurf bresennol yn colli cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i osod addysg Gymraeg i bawb fel nod hirdymor, ac i osod targedau statudol fydd yn sicrhau bod rheidrwydd ar gynghorau lleol i weithio tuag at hynny ar unwaith.”