Ynys Môn: Cludo dynes i’r ysbyty ar ôl iddi syrthio oddi ar geffyl
15/07/2024
Mae dynes wedi ei chludo i’r ysbyty ar ôl iddi syrthio oddi ar geffyl ar draeth ar Ynys Môn.
Dywedodd Tîm Achub Gwylwyr y Glannau Rhosneigr eu bod nhw a thîm achub Caergybi wedi eu galw i draeth Cymyran ddydd Sul.
Cafodd y ddynes ei chludo i’r ysbyty mewn hofrennydd achub o’r traeth ger Llanfair-yn-neubwll ar arfordir gorllewinol yr ynys.
Roedd y ceffyl wedi'i gludo'n ôl i'w drelar yn gynharach.
“Rydyn ni’n dymuno pob lwc i'n claf am wellhad buan,” meddai Tîm Achub Gwylwyr y Glannau Rhosneigr.
“Cofiwch, os ydych chi, neu os ydych chi'n gweld unrhyw un mewn trafferthion o amgylch ein harfordir neu ar y môr, yna ffoniwch i ofyn am Wylwyr y Glannau.”