Cyhuddo dyn o lofruddio dau ar ôl darganfod gweddillion dynol
Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o ddau achos o lofruddiaeth ar ôl i weddillion dau ddyn gael eu darganfod ym Mryste a Llundain.
Cafodd Yostin Andres Mosquera ei arestio gan swyddogion Heddlu'r Met yn oriau man y bore ddydd Sadwrn.
Fe gafodd ei gyhuddo fore Llun ar ddau achos o lofruddiaeth ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos yn Llys Ynadon Wimbledon.
Roedd gweddillion dynol wedi cael eu darganfod mewn cesys ym Mryste ac mewn fflat yn Shepherd's Bush.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai gweddillion Albert Alfonso, 62 oed a Paul Longworth, 71 oed a gafodd eu darganfod.
Roedd y ddau wedi bod mewn perthynas gyda'i gilydd yn y gorffennol ac roeddent yn byw gyda'i gilydd yn y fflat ar Ffordd Scott yn Shephard's Bush.
Dywedodd y llu bod y ddau yn adnabod Yostin Andres Mosquera a'i fod yn aros gyda nhw yn y fflat am gyfnod byr.
Maen nhw'n parhau i ymchwilio i'r achos.
'Ofnadwy'
Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Andy Valentine: “Mae fy meddyliau yn bennaf oll ag anwyliaid Albert a Paul sy’n dod i delerau â’r newyddion ofnadwy hwn.
“Er nad ydym yn credu bod gan y naill na’r llall unrhyw deulu agos, rydym wedi dod o hyd i'w perthnasau agosaf eraill ac maent wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol. Rydym yn parhau i geisio canfod unrhyw aelodau o'r teulu estynedig.
“Rwy’n gwybod y bydd y digwyddiad ofnadwy hwn yn achosi pryder nid yn unig ymhlith trigolion Shepherds Bush ond yn y gymuned LGBTQ+ ehangach ledled Llundain.
"Rwy’n gobeithio y bydd yn rhoi rhywfaint o sicrwydd, er bod ymchwiliadau’n dal i fynd rhagddynt a’r ymchwiliad yn gymharol gynnar, nad ydym ar hyn o bryd yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r ddwy lofruddiaeth."
Llun: Jonathan Brady/PA