Pêl-droed: Sbaen yn curo Lloegr i ennill Euro 2024
Sbaen sydd wedi ennill UEFA Euro 2024 ar ôl curo Lloegr 2-1 yn y rownd derfynol yn Berlin nos Sul.
Mikel Oyarzabal oedd arwr y Sbaenwyr, wrth iddo sgorio’r gôl i ennill y gêm, a’r bencampwriaeth, yn y munudau olaf yn yr Olympiastadion.
Roedd y gêm yn ddi-sgôr ar hanner amser ar ôl hanner cyntaf ddi-flach yn yr Olympiastadion.
Ond roedd hi’n stori wahanol wedi’r egwyl.
Daeth y gêm yn fyw ychydig dros funud wedi’r ail hanner ddechrau, wrth i asgellwr Sbaen, Nico Williams, sgubo’r bêl heibio’r golwr Jordan Pickford i sgorio’r gôl agoriadol.
Roedd Sbaen yn llwyr reoli am gyfnod, gan greu sawl cyfle drwy Dani Olmo a Lamine Yamal.
Ond ar ôl methu â manteisio arnyn nhw, daeth Lloegr yn ôl i unioni’r sgôr wedi 73 munud gydag ergyd wych gan yr eilydd Cole Palmer.
Parhau i reoli’r meddiant gwnaeth y Sbaenwyr wedi hynny, gan gadw’r pwysau ar amddiffyn y Saeson.
Ac wedi 86 munud, daeth y foment dyngedfennol pan lwyddodd Mikel Oyarzabal i ganfod cefn y rhwyd i ennill y gêm i Sbaen a sicrhau Pencampwriaeth Ewrop i’w wlad.
Dyma’r pedwerydd tro i Sbaen ennill y bencampwriaeth yn eu hanes.
Llun: Wotchit/AFP