Cyn-chwaraewr Cymru yn teithio i gefnogi'r tîm gyda'i disgyblion
Fe fydd cyn-chwaraewr tîm merched Cymru, sydd nawr yn athrawes ysgol, yn teithio gyda bws o ddisgyblion o Ynys Môn i gefnogi Cymru nos Fawrth.
Bydd Katie Davies – oedd â chyfenw Williams wrth chwarae dros Gymru – yn teithio gyda 30 o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Caergybi i lawr i'r gêm.
Bydd staff a’r disgyblion yn gwneud y daith bedair awr a hanner o Fôn i Lanelli, i wylio Cymru yn herio Kosovo yn eu gêm grŵp rhagbrofol olaf ar gyfer EUFA Euro 2025.
Yn ôl Ms Davies, sydd bellach yn athrawes ymarfer corff, mae mynd a'r disgyblion i weld y tîm cenedlaethol yn chwarae yn gyfle i'w hysbrydoli.
“Mae’r plant yn mor gyffrous, ‘di nhw methu disgwyl i weld y chwaraewyr.
“Dw i 'di bod eisiau dod a nhw i lawr ers amser hir. Maen nhw wrth eu boddau efo pêl-droed a dw i eisiau annog eu brwdfrydedd a dangos iddyn nhw be allwch chi gyflawni efo gwaith caled.”
Fe gafodd Katie, sydd yn wreiddiol o Fangor, 20 cap dros Gymru mewn cyfnod o saith mlynedd. Fe enillodd ei chap cyntaf yn 18 oed, yn 2004. Yn y gêm honno, roedd yn rhan o’r tîm enillodd 3-2 yn erbyn Portiwgal yng Nghwpan yr Algarve.
Ei safle oedd fel amddiffynnwr ac fe chwaraeodd i Ddinas Bangor cyn mynd ymlaen i chwarae i Lerpwl yn ystod ei gyrfa.
Wedi rhannu’r maes gyda chwaraewyr fel Sophie Ingle a Jess Fishlock yng nghrys coch Cymru, mae’r un sêr yn parhau’n aelodau allweddol o’r tîm presennol, sydd yn gobeithio creu hanes.
Byddai hawlio lle yn Euro 2025 yn golygu ymddangosiad cyntaf Cymru mewn rowndiau terfynol cystadleuaeth ryngwladol yn hanes y tîm.
“Dwi mor falch o le maen nhw rŵan a dwi’n gobeithio medran nhw gymryd y cam olaf yna i gael y wobr maen nhw’n haeddu," meddai Ms Davies.
“Dwi’n cofio cael dynion fel modelau rôl i mi, ond mae cael merched cryf yn serennu yn y byd pêl-droed rŵan, mae’n dangos bod yna ffordd i wneud gyrfa allan o fod yn dda yn chwaraeon, sydd yn wych.
“Mae datblygiad y gêm yn anhygoel. Dwi’n clywed plant yn siarad yn yr ysgol am y gêm ar y penwythnos ac yn enwi chwaraewyr – mae sylweddoli bod nhw yn siarad am bêl-droed merched yn ffantastig.
“Wrth gwrs mae dal gwaith i’w wneud, ond mae’n symud yn y cyfeiriad iawn.”