Llywodraeth Cymru i lansio cynllun newydd i 'sicrhau dyfodol gwyrdd'
Bydd Llywodraeth Cymru yn lansio cynllun newydd ddydd Llun i "sicrhau dyfodol gwyrdd i Gymru".
Mewn cynhadledd i'r wasg, mae disgwyl i Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg, lansio Trydan Gwyrdd Cymru.
Mae'r cynllun wedi cael ei sefydlu i "gyflymu'r gwaith o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy", gan ganolbwyntio'n benodol ar ynni gwynt ar y tir.
Yn y gynhadledd yn Rhondda Cynon Taf, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi eu Strategaeth Wres, sef y cyntaf o'i fath yn y DU.
Bwriad y strategaeth yw "nodi map ffordd ar gyfer datgarboneiddio gwresogi cartrefi, eiddo masnachol a diwydiant".
Mae'n rhan o ymgyrch ehangach Llywodraeth y DU i gyrraedd sero net erbyn 2050.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "wir angen" y strategaeth.
"Gyda gwres yn cyfrif am 50% o'r ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio yng Nghymru, y mae 75% ohono'n dod o danwyddau ffosil, mae yna wir angen am strategaeth draws lywodraethol i daclo hyn yn y tymor byr a’r tymor hir," medden nhw.
'Buddsoddiad sylweddol'
Dywedodd Jeremy Miles: "Bydd bod yn berchen ar ein cwmni ynni adnewyddadwy ein hunain ar ran Cymru yn ein galluogi nid yn unig i ddatblygu ynni adnewyddadwy mewn ffyrdd sy'n cyd-fynd â'r amgylchedd naturiol, ond yn bwysicaf oll i roi'r gallu inni, a phobl Cymru, i dderbyn enillion yr hyn a fydd yn fuddsoddiad sylweddol.
"Mae gennyn ni ffordd hir o'n blaenau ac ni fyddwn yn dechrau cynhyrchu incwm i Gymru am nifer o flynyddoedd – ond mae'r gwaith i sicrhau dyfodol gwell ar gyfer ein hynni yn dechrau heddiw."