Carlos Alcaraz yn ennill senglau'r dynion yn Wimbledon
Mae Carlos Alcaraz wedi ennill senglau'r dynion yn Wimbledon.
Fe wnaeth Alcaraz, o Sbaen, guro'r cyn pencampwr ar saith achlysur, Novak Djokovic, o Serbia, 6-2 6-2 7-6 (7-4) ddydd Sul.
Dyma'r ail dro'n olynol i'r chwaraewr 21 oed ennill y twrnamaint yn Llundain.
Daw ddiwrnod ar ôl i Barbora Krejcikova o'r Weriniaeth Tsiec ennill senglau'r merched.
'Byw fy mreuddwyd'
Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd: "Waw. Yn onest, mae'n freuddwyd i mi ennill y tlws hwn.
"Fe wnes i gyfweliad pan o'n i'n 12 neu 11 ac fe wnes i ddweud mai fy mreuddwyd oedd ennill Wimbledon. Dw i'n byw fy mreuddwyd, dw i am ddal ati.
“Mae’n deimlad gwych chwarae yn y cwrt hardd hwn, i godi’r tlws anhygoel hwn.
"Dw i wedi ei ddweud o'r blaen: dyma'r twrnamaint, y cwrt a'r tlws mwyaf prydferth!"