Ymestyn rhybudd melyn am law trwm yng Nghymru
Mae rhybudd melyn am law trwm wedi ei gyhoeddi ar gyfer pob sir yng Nghymru ddydd Llun, a mae'r rhybudd bellach wedi ei ymestyn i rai ardaloedd nes dydd Mawrth.
Bydd y rhybudd gan y Swyddfa Dywydd yn dod i rym am 08:00 ac yn parhau tan 23:59 i ran fwyaf o'r siroedd tra bod y rhybudd yn parhau i siroedd y gogledd tan 09:00 fore Mawrth.
Fe allai rhai ardaloedd weld 15-20 mm o law yn disgyn mewn llai nag awr, a chymaint â 30-40 mm o fewn tair awr.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai hyn arwain at lifogydd ac amseroedd teithio hirach.
Mae siawns fach hefyd y gallai cartrefi a busnesau ddioddef llifogydd, medden nhw.
"Rhowch y siawns orau i chi'ch hun o osgoi oedi trwy wirio amodau'r ffyrdd os ydych chi'n gyrru, neu amserlenni bysiau a threnau, gan addasu eich cynlluniau teithio os oes angen," meddai llefrydd ar ran y Swyddfa Dywydd.
"Byddwch yn barod i rybuddion tywydd newid yn gyflym, mae’r Swyddfa Dywydd yn argymell eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ragolygon y tywydd yn eich ardal pan rydym yn cyhoeddi rhybuddion."
Mae'r rhybudd mewn grym i bob sir yng Nghymru tan 23:59 nos Lun.
Bydd y rhybudd mewn grym i'r siroedd isod tan 09:00 fore Mawrth.
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Wrecsam