Dyn gydag 'anafiadau difrifol' wedi tân ar iard gychod ym Mangor
Dyn gydag 'anafiadau difrifol' wedi tân ar iard gychod ym Mangor
Mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty gydag "anafiadau sy'n peryglu bywyd" yn dilyn tân mewn iard gychod ym Mangor ddydd Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Borth Penrhyn ger Bangor toc cyn 14.00 dydd Sadwrn i ddelio â thân.
Roedd y tân wedi cael ei achosi gan "ffrwydrad nwy" ar gwch hwylio oedd allan o'r dŵr, meddai Heddlu Gogledd Cymru.
Cafodd pedwar criw tân eu danfon i'r safle ynghyd â'r heddlu, gwasanaeth ambiwlans a gwylwyr y glannau.
Fe wnaeth dau ambiwlans awyr hefyd lanio yn y lleoliad yn dilyn adroddiadau bod o leiaf un person wedi cael ei anafu.
Cafodd dyn, a oedd wedi bod yn cynnal gwaith i adnewyddu ei gwch, ei gludo gan ambiwlans awyr i ysbyty yn Lerpwl gydag "anafiadau sy'n peryglu bywyd".
Yn ôl llefarydd ar ran cwmni gwasanaethau morol Dickie's, sy'n gweithredu ar y safle, fe ddechreuodd y tân ar gwch catamaran.
Dywedodd y cwmni fod yna "ffrwydrad nwy" wedi digwydd a bod perchennog y catamaran wedi dioddef llosgiadau i'w freichiau ac i'w ben.