Newyddion S4C

Barbora Krejcikova yn ennill senglau'r merched yn Wimbledon

13/07/2024
Barbora Krejcikova, pencampwr senglau'r menywod yn Wimbledon

Mae Barbora Krejcikova wedi ennill senglau'r merched yn Wimbledon.

Fe ddaeth y chwaraewr tenis o'r Weriniaeth Tsiec yn fuddugol yn erbyn Jasmine Paolini o'r Eidal ddydd Sadwrn.

Dyma'r tro cyntaf i Krejcikova ennill y twrnamaint yn Llundain.

Mae'r canlyniad yn golygu bod enillydd senglau'r merched yn Wimbledon wedi bod yn enillydd am y tro cyntaf am saith mlynedd yn olynol.

Fe aeth y gêm i drydedd set, gyda Krejcikova yn ennill y gyntaf 6-2, a Paolini yn ennill yr ail o'r un sgôr.

Fodd bynnag, fe lwyddodd Krejcikova i guro Paolini yn y set olaf, gan ennill 6-4.

'Afreal'

Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd Krejcikova: "Does gen i ddim geiriau ar hyn o bryd. Mae'n afreal beth ddigwyddodd. Diwrnod gorau fy ngyrfa tennis a diwrnod gorau fy mywyd.

“Rydw i eisiau llongyfarch Jasmine a’i thîm, fe ymladdodd am bob un bêl, yn y diwedd fi oedd yr un lwcus, ond mae’n anhygoel beth mae hi wedi gallu ei gyflawni mewn cyfnod mor fyr.

"Roeddwn i'n dweud wrthyf fy hun am fod yn ddewr. Roedd yn gêm mor anodd, yn rownd derfynol wych, yn gystadleuaeth wych ac rwy'n hapus iawn i fod yn sefyll yma yn mwynhau'r foment hon."

Ychwanegodd: "Dwi'n meddwl nad oes neb yn mynd i gredu fy mod i wedi ennill Wimbledon. Dw i dal methu credu'r peth. Bythefnos yn ôl fe ges i gêm galed iawn, 7-5 yn y drydedd set a doeddwn i ddim mewn cyflwr da.

"Cefais fy anafu ac roeddwn i'n sâl a ches i ddim dechrau da i'r tymor, a nawr fi yw enillydd Wimbledon. Sut ddigwyddodd hynny?"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.