Y cogydd Bryn Williams i gynnal digwyddiad yng Nghymru gyda Michel Roux Jr
Mae'r cogydd o Ddinbych, Bryn Williams, wedi cyhoeddi digwyddiad arbennig yng ngogledd Cymru gyda Michel Roux Jr.
Bydd y Cymro yn croesawu cyn-berchennog y bwyty dwy seren Michelin yn Llundain, Le Gavroche, i goginio yn ei fwyty Porth Eirias ym Mae Colwyn.
Bydd y ddau yn cydweithio yn y lleoliad ar ddydd Sadwrn, 7 Rhagfyr.
Roedd Bryn wedi bod yn gweithio i'r Cogydd Michel yn Le Gavroche rhwng 1999 a 2003, cyn symud ymlaen i redeg Odette's ym Mryn y Briallu, Llundain.
Ym mis Mai, fe gyhoeddodd Bryn y byddai'n gwerthu ei fwyty poblogaidd yn Llundain wedi 16 mlynedd wrth y llyw.
Mewn datganiad, dywedodd ei fod yn "gyffrous" i gael treulio mwy o amser yng Nghymru.
"Rwyf bellach yn gyffrous i dreulio mwy o amser yn fy Nghymru enedigol, ac yn arbennig gogledd Cymru, yn parhau i weithio ar ein bistro ym Mhorth Eirias, yn ogystal â manteisio ar gyfleoedd cyffrous eraill o gwmpas yr ardal honno a thu hwnt," meddai.
Dywedodd Porth Eirias mai dyma'r tro cyntaf i'r cogyddion gydweithio mewn cegin yng Nghymru.
Bydd y fwydlen ar y noson yn cyfuno cynhwysion Cymreig a Ffrengig, meddai.