Newyddion S4C

Gaza: 141 o Balesteiniaid wedi'u lladd mewn streiciau awyr gan Israel

13/07/2024
Al-Mawasi, Gaza

Mae 141 o bobl wedi'u lladd mewn streiciau awyr gan Israel yn Gaza, yn ôl y weinidogaeth iechyd sy’n cael ei rhedeg gan Hamas.

Mae mwy na 400 o bobl wedi cael eu hanafu ers ddydd Sadwrn, yn ôl datganiad gan y weinidogaeth iechyd.

Fe darodd un o’r streiciau awyr barth dyngarol yn ardal al-Mawasi ger dinas Khan Younis.

Dywedodd Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, fod y streic awyr wedi targedu uwch arweinydd Hamas, Mohammed Deif.

Ond dywedodd Mr Netanyahu ddydd Sul nad oedd “unrhyw sicrwydd” fod Mohammed Deif wedi cael ei ladd.

Yn ôl Byddin Israel, roedd y streic wedi targedu Mohammed Deif mewn "ardal agored" lle'r oedd "terfysgwyr Hamas yn unig a dim sifiliaid". 

Cafodd Rafa Salama, rheolwr Hamas yn Khan Younis, hefyd ei dargedu, medden nhw. 

Ond dywedodd Hamas fod yr honiad bod eu harweinwyr wedi cael eu targedu yn "anwir".

“Nid dyma’r tro cyntaf i Israel honni eu bod yn targedu arweinwyr Palestina, dim ond i'r honiadau gael eu profi’n ffug yn ddiweddarach,” meddai’r grŵp.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.