Newyddion S4C

Cyngor Caerdydd yn rhagweld bwlch o £50m yn ei gyllideb

13/07/2024
cyngor caerdydd.jpg

Mae Cyngor Caerdydd yn rhagweld bwlch o bron i £50m yn ei gyllideb ar gyfer 2025/26.

Dywedodd Cyngor Caerdydd ei fod yn wynebu bwlch o £49.7m yn ei gyllideb oherwydd bod disgwyl i gost darparu gwasanaethau gynyddu a swm y cyllid ostwng.

Mae'r cyngor bellach yn gweithio ar gynllun cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf i bontio'r bwlch, meddai.

Ond ychwanegodd y gallai'r cynllun arwain at "rhai gwasanaethau'n cael eu cwtogi neu eu hatal yn llwyr".

Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Caerdydd: "Mae'r bwlch yn y gyllideb oherwydd cymysgedd o gostau ychwanegol a'r gostyngiadau disgwyliedig yng nghyllid y llywodraeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus.

"Mae effeithiau mawr ar y gyllideb yn cynnwys galw cynyddol am wasanaethau cymhleth, yn enwedig mewn perthynas â phlant mewn lleoliadau gofal, costau gofal cartref i oedolion, a chynnydd sylweddol yn y gofyniad i ysgolion ddarparu ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol."

Ychwanegodd fod "pwysau chwyddiant eraill" wedi rhoi "straen aruthrol" ar gyllideb y cyngor.

"Mae pwysau chwyddiant eraill gan gynnwys costau bwyd uwch, deunyddiau adeiladu, a gwasanaethau sy'n cael eu comisiynu'n allanol, fel lleoliadau cartref gofal a chludiant o'r cartref i'r ysgol, hefyd yn rhoi straen aruthrol ar gyllideb y cyngor."

'Penderfyniadau anodd'

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i gyflawni cyllideb gytbwys ar gyfer 2025-26 ac rydym wedi ymrwymo i gyflawni hynny yn yr hyn sy'n parhau i fod yn dirwedd ariannol gynyddol heriol.

"Byddwn nawr yn gweithio ar lunio cyllideb, a chynllun corfforaethol wedi'i ddiweddaru, a fydd yn blaenoriaethu'r adnoddau sydd ar gael ar wasanaethau allweddol."

Er mwyn mynd i'r afael â'r bwlch yn y gyllideb, mae'r cyngor yn bwriadu cyflwyno sawl mesur, gan gynnwys cynyddu ffrydiau incwm, lleihau gwariant, a gwneud y mwyaf o arbedion effeithlonrwydd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Rydyn ni'n gwybod bod gennym ni benderfyniadau a dewisiadau anodd i'w gwneud dros y misoedd nesaf, ond rydyn ni'n benderfynol o geisio lleihau'r diffyg yn y gyllideb mewn ffyrdd a fydd yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar bobl Caerdydd."

Bydd adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd sy'n manylu ar y pwysau ariannol yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau.

Ym mis Mawrth, amlygodd Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor fwlch cyllidebol posibl o £44.3m yn 2025-26. 

Ar gyfer y cyfnod hirach o 2025-2029, mae'r bwlch hwn yn cynyddu i £142.3m.

Ond bydd cynghorwyr yn clywed yr wythnos nesaf fod y diffyg rhagamcanol ar gyfer 2025/26 wedi codi dros £6m i £49.726m a £147.7m dros y tymor canolig.

Llun: Tony Hisgett

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.