Achos dynladdiad yn erbyn Alec Baldwin yn dymchwel
Mae’r achos o ddynladdiad anwirfoddol yn erbyn yr actor Hollywood, Alec Baldwin, ar ôl i’r sinematograffydd Halyna Hutchins gael ei saethu’n farw ar set ffilm, wedi dymchwel.
Bu farw Ms Hutchins ym mis Hydref 2021 ar ôl cael ei saethu ar set ffilm Rust.
Roedd y seren Hollywood yn wynebu dau gyhuddiad o ddynladdiad anwirfoddol.
Roedd Mr Baldwin, 66 oed, wedi gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn, gan fynnu nad oedd wedi tynnu sbardun y gwn, ac mai eraill oedd yn gyfrifol am wirio diogelwch y dryll ar y set.
Cafodd yr achos ei ddymchwel yn dilyn cynnig gan yr amddiffyniad yn cyhuddo’r erlyniad o guddio tystiolaeth am fwledi.
Gan ystyried ymddygiad "hynod ragfarnllyd" yr erlyniad a chamgymeriadau gan yr heddlu, fe benderfynodd y barnwr Marlowe Sommer diddymu’r achos, gan ddweud nad oedd ffordd i’r llys "gywiro’r camgymeriadau rhain".
Roedd Mr Baldwin yn ei ddagrau wrth i’r barnwr roi ei dyfarniad, wrth iddo gofleidio’r bargyfreithwyr oedd yn ei amddiffyn.