Newyddion S4C

Rhybudd i 'beidio nofio' ar ddau draeth poblogaidd yng Ngheredigion

12/07/2024

Rhybudd i 'beidio nofio' ar ddau draeth poblogaidd yng Ngheredigion

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhybuddio pobl i "beidio nofio" yn y môr ar ddau draeth poblogaidd yng Ngheredigion.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod yna "sefyllfa anarferol" ar draethau Llangrannog a Chilborth yn sgil "halogiad bacterol".

Ychwanegodd y corff eu bod yn "ymdrin â digwyddiad yn ymwneud â gollyngiad o lagŵn slyri sydd wedi rhyddhau slyri i’r afon, a hynny’n effeithio ar draeth Llangrannog.

"I ymateb i’r effaith amgylcheddol, ac o ystyried dylanwad y llanw, mae sefyllfa annormal wedi’i datgan ar draeth Llangrannog a thraeth Cilborth."

Mae Cyngor Ceredigion wedi cynghori pobl i beidio â mynd i'r traeth na nofio yn y môr er lles "eu diogelwch eu hunain" nes bod arwyddion ar y ddau draeth wedi cael eu tynnu i lawr. 

Ychwanegodd y cyngor bod dal modd i bobl nofio ar draethau cyfagos Tresaith ac Aberporth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.