Heddlu De Cymru o dan ymchwiliad wedi marwolaeth menyw o Ben-y-bont ar Ogwr
Mae Heddlu De Cymru yn un o ddau lu sydd o dan ymchwiliad wedi i fyfyrwraig nyrsio gael ei darganfod yn farw ochr yn ochr â pharafeddyg.
Cafwyd hyd i Lauren Evans, 22 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, a Daniel Duffield, 24 oed o Cannock, yn farw yn eu cartref ar Alpine Drive yn Hednesford, Sir Stafford, ar 25 Mehefin.
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi lansio ymchwiliad i gysylltiad Heddlu De Cymru a Heddlu Sir Stafford gyda Mr Duffield yn yr wythnosau cyn llofruddiaeth Ms Evans.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd yr (IOPC) fod Heddlu Sir Stafford wedi cadw Duffield yn y ddalfa o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ar 10 Mai a'i gludo i'r ysbyty.
Cadarnhaodd yr IOPC fod Heddlu De Cymru wedi cael "cysylltiad wyneb yn wyneb" gyda Duffield ar 14 Mai "pan ddaeth i ardal y llu, yn sgil gwybodaeth a dderbyniwyd gan yr heddlu".
Ychwanegodd yr IOPC: "Yn dilyn atgyfeiriadau ar wahân gan y ddau lu ddiwedd fis diwethaf, rydym wedi penderfynu ymchwilio i gysylltiad yr heddlu â Mr Duffield, yn yr wythnosau cyn ei farwolaeth ef a Ms Evans.
"Yn benodol, byddwn yn canolbwyntio ar gysylltiadau rhwng swyddogion a Mr Duffield rhwng 10 Mai a 14 Mai."
Dywedodd cyfarwyddwr yr IOPC David Frost: "Yn gyntaf, rwy'n cydymdeimlo gyda theuluoedd a ffrindiau Lauren a Daniel yn y cyfnod anodd yma.
"Rydym yn annibynnol o'r heddlu ac mae’n bwysig ein bod yn cynnal ymchwiliad trylwyr, i sefydlu amgylchiadau’r hyn a ddigwyddodd cyn digwyddiadau trasig 25 Mehefin.
"Byddwn yn archwilio pryderon am les a gafodd eu hadrodd i’r heddlu am Lauren a Daniel, ac os cafodd camau priodol eu cymryd gan y ddau lu."