Newyddion S4C

‘Calon y gymuned’: Grŵp yn brwydro i adfywio safle Ysgol Abersoch

14/07/2024
Ysgol Abersoch

Mae grŵp cymunedol yn ymgyrchu i adfywio safle hen ysgol mewn pentref ym Mhen Llŷn.

Bwriad Menter Rabar yw rhoi bywyd newydd i adeilad Ysgol Gynradd Abersoch fel canolfan gymunedol.

Byddai’r ganolfan newydd yn cynnwys caffi, gardd, arddangosfa treftadaeth, ac unedau busnes i’w rhentu.

Fe wnaeth yr ysgol gau ei drysau ym mis Rhagfyr 2021, a hynny oherwydd prinder disgyblion – o’r 32 lle yn yr ysgol, wyth o blant oedd yn mynychu’n llawn amser, gyda dau yn yr adran feithrin.

Roedd penderfyniad Cyngor Gwynedd i gau’r ysgol wedi ennyn ymateb chwyrn gan bobl leol, gyda nifer yn benderfynol na fyddai'r adeilad yn cael ei werthu i ddatblygwyr.  

Nawr, mae gobaith ar y gweill wrth i bobl ddod at ei gilydd i geisio adfer yr adeilad sydd wedi bod yn rhan o'r gymuned am ganrif.

"Mae pawb yn edrych ymlaen yn arw at gael gweld datblygiad yr ysgol," meddai Einir Wyn, ysgrifennydd Menter Rabar.

"Mae'r ysgol fach wedi bod yn galon y gymuned dros y cenedlaethau."

Gweledigaeth Menter Rabar

Ers cael ei sefydlu yn 2023, mae Menter Rabar wedi bod yn cymryd camau i ddatblygu'r ysgol.

Y llynedd, fe wnaeth Cyngor Gwynedd gynnig prydles fforddiadwy, hirdymor ar adeilad yr hen ysgol i'r fenter.

Ac ers hynny, mae'r grŵp wedi bod yn ymgynghori â'r cyhoedd i lywio cyfeiriad y datblygiad, gan ddosbarthu holiaduron a chynnal sesiynau galw i mewn.

Mae'r grŵp hefyd wedi cydweithio â'r cwmni pensaernïaeth Dobson Owen i ddylunio'r adeilad. 

Dywedodd Einir fod y dyluniad wedi ei ysbrydoli gan Y Sied ym Mhrestatyn, sef adeilad rheilffordd a gafodd ei drawsnewid yn ganolfan cymunedol gyda chaffi, siopau ac arddangosfeydd hanesyddol.

Image
Gweledigaeth 3D i safle Menter Rabar
Gweledigaeth 3D i safle'r hen ysgol yn Abersoch

Y gobaith yw y bydd y ganolfan yn apelio at ymwelwyr o bob oed mae'r grŵp yn awyddus i gynnal sesiynau ar gyfer pobl sy'n byw â dementia, yn ogystal â chlybiau ar ôl ysgol i blant. 

Mae'r grŵp hefyd yn gobeithio y bydd yr unedau busnes yn rhoi cyfleoedd i bobl ddechrau busnesau Cymreig.

"Dydy pobl ddim yn sylweddoli faint ohona ni sydd yn dal i frwydro dros yr iaith yma," meddai.

"A dw i'n meddwl y byddai'r fenter yn cryfhau'r gefnogaeth a’r cyfleusterau i gynnal pethau yn y Gymraeg."

Image
Unedau busnes Menter Rabar
Dyluniad o'r unedau busnes 

Er bod Menter Rabar yn canolbwyntio ar adfywio'r ysgol, dywedodd Einir fod cofio am ei hanes yn "bwysig".

“Mae gen ti gymaint o bobl wedi dod yma i fyw a does ganddyn nhw ddim syniad am yr hanes, a dydy nifer o Gymry ddim yn gwybod eu hanes yn iawn,” meddai.

“Felly 'da ni ‘sio trio denu gymaint o bobl 'da ni’n gallu i’r ysgol a’i chael yn hwb y gymuned eto.”

Er mwyn gwneud hynny, mae'r fenter am gydweithio â’r neuadd gyfagos sy’n cynnal arddangosfa flynyddol o hen luniau’r ardal – gyda'r bwriad o ddigideiddio’r lluniau a’u harddangos ar baneli dehongli. 

Codi arian

Er mwyn gwireddu’r freuddwyd o gael canolfan cymunedol, bydd yn rhaid i Fenter Rabar godi £500,000 ar gyfer y gwaith adnewyddu.

Mae'r grŵp eisoes wedi codi £35,218, sef arian sydd wedi darparu cynlluniau pensaernïol, cymorth marchnata a chynllun busnes.

Ac maen nhw wrthi'n gwneud cais i gael grant o £300,000 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru.

Mae ymgyrch GoFundMe gyda tharged o £50,000 wedi cael ei lansio hefyd.

Fodd bynnag, mae'r gwaith ymgyrchu yn parhau, gyda sesiwn galw i mewn yn yr ysgol dydd Sadwrn nesaf.

Er bod cryn dipyn o waith i'w wneud, gobaith Einir yw y bydd yr hen ysgol yn ffynnu ar ei newydd wedd.

“Slogan yr ysgol oedd 'Hwylio i’r dyfodol', a dw i’n gobeithio y bydd hynny’n digwydd am y 100 mlynedd nesaf," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.