Cwmni Carpetright ‘ar fin mynd i ddwylo’r gweinyddwyr’
Mae cwmni Carpetright ar fin mynd i ddwylo’r gweinyddwyr gan fygwth tua 1,800 o swyddi.
Mae gan y cwmni 11 o siopau yng Nghymru - yn Llandudno, Aberystwyth, Wrecsam, Caerfyrddin, Abertawe, Hwlffordd, Croes Cwrlwys Caerdydd, Caerffili, Llanidloes, a Phen-y-Bont ar Ogwr.
Mae'r cwmni carpedi a lloriau wedi cyflwyno hysbysiad o fwriad i benodi gweinyddwyr.
Y gred yw bod arbenigwyr o gwmni PricewaterhouseCoopers ar fin cael eu penodi fel rhan o'r broses, a fydd yn ceisio dod o hyd i arian brys neu brynwr.
Mae'r hysbysiad yn rhoi tua 10 diwrnod i gwmnïau geisio osgoi ansolfedd.
Mae gan y cwmni, sy'n cyflogi 1,852 o bobl, 272 o siopau ar draws y DU.
Dywedodd Kevin Barrett, Prif Swyddog Gweithredol Nestware Holdings sydd yn eiddo i Carpetright mai'r staff a chwsmeriaid yw'r flaenoriaeth.
“Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau buddsoddiad allanol i sicrhau bod cyn lleied o gwsmeriaid a chydweithwyr yn cael eu heffeithio â phosibl," meddai.
“Nhw yw ein prif flaenoriaeth ac rydym yn cymryd pob cam priodol i sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu a’u cefnogi drwy’r broses hon.
“Rydym wedi dechrau sgyrsiau addawol gyda rhai â diddordeb, sydd yn ein hannog bod gan Carpetright ddyfodol.”