Gweddillion dynol dau ddyn mewn cesys ym Mryste
Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi dweud mai gweddillon dynol dau ddyn gafodd eu darganfod mewn cesys ym Mryste.
Am 23.57 nos Fercher fe dderbyniodd swyddogion adroddiad am ddyn gyda chês dillad yn ymddwyn yn amheus ar Bont Grog Clifton.
O fewn 10 munud roedd yr heddlu wedi cyrraedd y lleoliad ond roedd y dyn wedi gadael yr ardal. Cafwyd hyd i ail gês dillad gerllaw.
Mae ymchwiliad yr heddlu i geisio darganfod y dyn yn parhau.
Mae'r heddlu wedi rhyddhau llun y dyn sydd dan amheuaeth.
Disgrifiodd yr heddlu'r dyn y maen nhw'n chwilio amdano fel dyn du, gyda barf ac yn gwisgo cap Adidas, ac esgidiau ymarfer du gyda gwadnau gwyn trwchus.
Roedd hefyd yn gwisgo clustdlws aur ac yn cario bag du ar ei gefn.
Dywed y llu fod y dyn wedi cyrraedd y bont mewn tacsi.
Post mortem
Dywedodd Pennaeth Dros Dro Heddlu Bryste, Vicks Hayward-Melen: “Mae hwn yn ddigwyddiad annifyr iawn ac rwy’n cydnabod yn llwyr y pryder y bydd yn ei achosi i’n cymunedau.
“Mae’r ymchwiliad yn cael ei arwain gan ein Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr ac mae’n cynnwys swyddogion arbenigol a staff o bob rhan o’n sefydliad.
“Ein blaenoriaeth gyntaf yw dod o hyd i’r dyn aeth â’r cesys i’r bont, adnabod yr unigolyn a fu farw, a hysbysu eu perthynas agosaf.
“Mae swyddogion arbenigol yn barod i roi unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt."
Ychwanegodd: “Cafodd archwiliad o’r ardal ei gynnal ar unwaith gan swyddogion gyda chefnogaeth Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu a Gwylwyr y Glannau EM ar ôl darganfod y cesys. Mae'r chwiliadau hyn yn parhau.
“Mae ymholiadau cychwynnol wedi cadarnhau bod y dyn wedi mynd i’r bont mewn tacsi. Mae'r cerbyd hwn wedi'i atafaelu ac mae'r gyrrwr yn ein helpu gyda'n hymholiadau.
“Mae ymchwilwyr lleoliadau trosedd arbenigol ar hyn o bryd yn archwilio’r bont a’r ardal gyfagos a bydd y bont yn parhau ar gau tra bydd yr ymholiadau hyn yn cael eu cynnal.
“Bydd archwiliad post mortem fforensig yn cael ei gynnal yn ddiweddarach heddiw.
“Ar hyn o bryd mae presenoldeb heddlu cynyddol yn yr ardal ac mae unrhyw un sydd â phryderon yn cael ei annog i siarad â swyddog.”
Llun: Heddlu Avon a Gwlad yr Haf