Newyddion S4C

Sbaen i wynebu Lloegr yn rownd derfynol Euro 2024

14/07/2024
sbaen lloegr.png

Bydd Sbaen yn wynebu Lloegr yn rownd derfynol Euro 2024 nos Sul ym mhrifddinas yr Almaen, Berlin. 

Mae Sbaen wedi ennill eu chwe gêm hyd yn hyn, gan guro rhai o fawrion Ewrop, o'r pencampwyr presennol, Yr Eidal, i'r Almaen, Croatia a Ffrainc. 

Er nad ydy Lloegr wedi perfformio ar eu gorau yn y gystadleuaeth, mae tîm Gareth Southgate wedi llwyddo i ddyfalbarhau a defnyddio eu profiad o chwarae ar y llwyfan mwyaf er mwyn sicrhau eu lle yn y rownd derfynol. 

Bydd Lloegr yn gobeithio mynd un cam ymhellach nag yn Euro 2020, wedi iddyn nhw golli ar giciau o'r smotyn yn y rownd derfynol yn erbyn Yr Eidal. 

Sbaen sydd wedi sgorio'r mwyaf o goliau yn y gystadleuaeth hyd yma, sef 13 gôl.

Maen nhw hefyd wedi torri record wedi iddyn nhw ennill chwe gêm heb orfod mynd i giciau o'r smotyn. Does yr un tîm wedi llwyddo i wneud hynny mewn pencampwriaeth Ewropeaidd o'r blaen. 

Fe fydd Sbaen yn gobeithio mai nhw fydd y wlad gyntaf i ennill y gystadleuaeth bedair gwaith, wedi iddyn nhw ennill ym 1964, 2008 a 2012. 

Yn 17 oed, mae Lamine Yamal wedi serennu yn y gystadleuaeth i'r Sbaenwyr wedi iddo dorri'r record am y chwaraewr ieuengaf i sgorio yn yr Ewros neu Gwpan y Byd.

Mae Nico Williams hefyd wedi bod yn allweddol i Sbaen, ag yntau ddim ond yn 21 oed.

'Maen nhw'n ennill'

Dydy'r daith i'r rownd derfynol heb fod yn hawdd i Loegr. 

Ar ôl ennill dim ond un gêm yng Ngrŵp C, roedd angen amser ychwanegol i guro Slofacia yn rownd yr 16 olaf yn ogystal â chiciau o'r smotyn yn erbyn Y Swistir yn rownd y chwarteri. 

Roedd gôl Ollie Watkins yn amser ychwanegol y rownd gyn-derfynol yn erbyn Yr Iseldiroedd yn ddigon i sicrhau eu lle yn y rownd derfynol. 

Ond mae'r wasg yn Sbaen yn cydnabod bygythiad eu gwrthwynebwyr, gyda phapur newydd chwaraeon Marca yn dweud "er nad ydi Lloegr yn chwarae yn dda, maen nhw'n ennill". 

"Er eu bod nhw'n dioddef, maen nhw'n ennill." 

Bydd y ffeinal yn cael ei chwarae yn yr Olympiastadion yn Berlin nos Sul, gyda'r gic gyntaf am 20:00. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.