‘Gŵyl i bawb’: Trefnwyr Tafwyl yn blaenoriaethu ‘hygyrchedd’ ar y maes eleni

13/07/2024

‘Gŵyl i bawb’: Trefnwyr Tafwyl yn blaenoriaethu ‘hygyrchedd’ ar y maes eleni

Wrth i un o wyliau cerddorol mwyaf poblogaidd Cymru ddychwelyd i'r brifddinas y penwythnos hwn, mae prif drefnydd Tafwyl wedi dweud ei bod yn benderfynol o sicrhau mwy o “hygyrchedd” ar y maes eleni, ac yn y dyfodol.

A hithau yn y swydd am y tro cyntaf eleni, dywedodd Bethan Jones-Ollerton o Fenter Caerdydd ei bod hi a’r trefnwyr eraill wedi gwrando ar adborth pobl ifanc y llynedd, gan geisio sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed. 

Mae Tafwyl bellach wedi cyflwyno nifer o fesurau newydd er mwyn sicrhau hygyrchedd o bob math, gan gynnwys cyfieithiadau BSL i gyd-fynd gyda phob perfformiad fyw ar y brif lwyfan.  

“Yr elfennau hygyrch newydd ‘da ni ‘di cynnwys yw system gwib giwio – ac mae hynny wedi dod o riant yn gofyn wrthym ni os oedd gyda ni rhywbeth mewn lle ar gyfer ei mab sydd yn ffeindio ciwio yn anodd," meddai.

“Hefyd o llynedd, roedd rhywun wedi gofyn am ardal tawel. Oedden nhw wedi ffeindio bod nhw angen rhyw le yn ystod yr ŵyl i allu fynd felly eleni mae gynnon ni ardal tawel.

“Mae gynnon ni ‘fyd ardal i weddïo, ac yn yr ardal Bwrlwm mae gynnon ni weithgareddau sydd yn sensory.”

Image
Tafwyl
Y gwaith o baratoi yn cael ei chynnal ar gaeau Parc Biwt

'Gŵyl i bawb'

Ond mae Ms Jones-Ollerton hefyd yn awyddus i weld hyd yn oed mwy o fesurau tebyg yn y dyfodol, meddai wrth Newyddion S4C

Roedd yn bwysig dangos fod y trefnwyr yn gwrando ar leisiau pobl ifanc, meddai, gan ddweud mai “rhyw le mae pawb yn teimlo maen nhw’n gallu dod iddo fo” yw Tafwyl. 

“Gŵyl i bobl Caerdydd, pobl Cymru yw Tafwyl," meddai.

“Felly mae’n bwysig os mae rhywun yn rhoi adborth i ni fod ni’n gwrando.”

Mae Tafwyl yn gyfle i bawb ddod at ei gilydd i ddathlu’r diwylliant, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg ar y cyd, meddai.

“Mae o’n bwysig iawn i bobl o Gaerdydd sydd yn ddi-Gymraeg i weld y diwylliant.," meddai.

“Ac i bobl sydd yng Nghaerdydd ei hun sydd yn siarad Cymraeg, y plant yn yr holl ysgolion, i weld fod y Gymraeg yn fyw.”

Image
Tafwyl
Tafwyl yn cael ei chynnal ym Mharc Biwt y llynedd (Tafwyl/Instagram)

'Tyfu'

Bydd Tafwyl yn cael ei chynnal ar gaeau Parc Biwt am yr eildro eleni, ac mae’r trefnwyr yn gobeithio croesawu’r gynulleidfa fwyaf erioed wedi i’r safle dyfu unwaith yn rhagor. 

“Llynedd gafodd ni 28,000 yn dod felly eleni, gobeithio os mae’r tywydd yn aros yn braf fydd ni’n cael mwy," meddai Bethan Jones-Ollerton.

“Llynedd ‘odd hi’n glawio a ‘nath pobl dal i ddod felly dyna’r gobaith yw bod hi’n ddiwrnod braf, bod pobl yn gweld gwerth dod a chael diwrnod am ddim yn joio.”

Y prif artistiaid i berfformio yn yr ŵyl eleni fydd Eden, Fleur de Lys, Al Lewis, Celt, Rio 18 ac Yws Gwynedd a'i fand.

Bydd uchafbwyntiau Tafwyl yn cael eu darlledu ar S4C am 20.00 ddydd Sadwrn a Sul.

Yn ystod y dydd, bydd modd gwylio ffrydiau byw o lwyfannau Tafwyl ar ddydd Sadwrn a dydd Sul ar S4C Clic, YouTube S4C, S4C Lŵp yn ogystal â Facebook S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.