Marwolaethau bwa croes: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio
Mae'r heddlu wedi arestio dyn sydd dan amheuaeth o ladd tri aelod o'r un teulu gyda bwa croes yn Sir Hertford ddydd Mawrth.
Dywedodd Heddlu Sir Hertford ddydd Gwener bod Kyle Clifford wedi cael ei arestio ar amheuaeth o'r llofruddiaethau a'i fod yn parhau mewn "cyflwr difrifol."
Mae Mr Clifford, 26 oed, yn yr ysbyty ar ôl cael ei ddarganfod gydag anafiadau yn ystod ymgyrch i chwilio amdano ddydd Mercher.
Cafwyd hyd i Clifford wedi’i anafu ym Mynwent Lavender Hill yn Enfield, gogledd Llundain, a chafodd ei gludo i ysbyty i gael triniaeth.
Bu farw Carol Hunt, 61 oed, gwraig sylwebydd rasio BBC 5 Live John Hunt, â'i dwy ferch Hannah, 28 oed a Louise, 25 oed, yn ystod digwyddiad ar ffordd Ashlyn Close yn Bushey, Sir Hertford, ychydig wedi 19:00 nos Fawrth.
'Person hardd'
Ddydd Iau fe wnaeth cydweithwyr a ffrindiau'r tair aelod o'r teulu a fu farw roi teyrnged i “deulu hyfryd”
Disgrifiodd Lea Holloway, 60, ffrind i Carol Hunt ers yn blentyn, y fam fel “person hardd”.
Wrth siarad y tu allan i Eglwys Sant Iago ddydd Iau ar ôl gwylnos i Mrs Hunt a’i merched, dywedodd: “Fe wnaethon ni dyfu i fyny gyda’n gilydd ac roedden ni’n feichiog ar yr un pryd.
“Dyma’r stwff mae hunllefau wedi’u gwneud ohonyn nhw.
“Roeddwn i yno y noson y cyfarfu â John (Hunt). Roedd mewn clwb nos yn Hemel Hempstead. Aethon ni allan gyda'n gilydd, mynd i benblwyddi a digwyddiadau.
“Mae’n anodd iawn. Hi oedd y person cleniaf, mwyaf caredig, addfwynaf y gallech chi erioed ei chyfarfod. Person hardd.”
'Therapydd gwych'
Mewn neges ar Facebook, dywedodd cydweithwyr Hannah Hunt o'r Anti-Ageing Clinic yn Radlett, Sir Hertford, mai gyda “gofid a thristwch mawr” y clywsant am “lofruddiaeth erchyll nos Fawrth ein therapydd croen Hannah”.
Ychwanegodd y datganiad: “Roedd hi’n therapydd gwych ac roedd cleientiaid yn ei charu.
“Anfonwn ein cydymdeimlad a’n gweddïau at ei Thad, ei chwaer a’i theulu.
“Roedd hi’n rhan fawr o’n tîm. Byddwch yn amyneddgar gyda ni ar yr adeg ofnadwy yma.”
Gadawyd blodau yn Ashlyn Close ddydd Iau, gyda negeseuon yn cynnwys “gorweddwch mewn hedd”.