Llwyddiant y Seintiau, y Cofis a’r Nomads yn rhoi hwb i gynghrair Cymru yn Ewrop
Mae llwyddiant clybiau cynghrair y Cymru Premier JD wedi rhoi hwb i safle Cymru yn nhabl cynghreiriau Ewrop.
A hithau'n un o wythnosau gorau erioed i’r gynghrair mewn cystadlaethau Ewrop UEFA, fe enillodd Y Seintiau Newydd 3-0 yn erbyn FK Decic o Montenegro yng Nghynghrair y Bencampwyr nos Fawrth.
Yna nos Iau, fe lwyddodd Caernarfon i drechu Crusaders o Ogledd Iwerddon o ddwy gôl i ddim yng Nghyngres Europa, tra bod Cei Connah wedi curo NK Bravo 1-0 oddi cartref yn Slofenia.
Inline Tweet: https://twitter.com/CymruLeagues/status/1811503220323131600
Colli 1-2 gartref oedd hanes Y Bala yn erbyn Paide Linnameeskond o Estonia yn yr un gystadleuaeth, gyda’r pedwar tîm yn chwarae yn ail gymal eu gemau yr wythnos nesaf.
Bydd llai o dimau o Gymru yn cystadlu yn Ewrop yr haf nesaf oherwydd perfformiad cymharol wael gan glybiau dros y tymhorau diwethaf – ond fe allai hynny newid yn sgil llwyddiant yr wythnos hon.
Inline Tweet: https://twitter.com/CaernarfonTown/status/1811509563209744416
Mae’r buddugoliaethau wedi rhoi hwb i gyfernod (coefficiency) y Cymru Premier JD o blith holl gynghreiriau yng ngwledydd Ewrop – sef y sgôr sy’n cael ei roi yn seiliedig ar ganlyniadau clybiau pob cynghrair yng nghystadlaethau Ewropeaidd.
Y tymor nesaf, tri safle fydd ar gael i Gymru yn Ewrop yn hytrach na phedwar y tymor diwethaf, a hynny oherwydd bod canlyniadau siomedig wedi achosi i gyfernod y gynghrair i syrthio.
Roedd Cymru yn y 51fed safle allan o 55 o gynghreiriau y tymor diwethaf.
Inline Tweet: https://twitter.com/FootRankings/status/1811490684257353885
Ond gyda thair buddugoliaeth yn yr wythnos gyntaf o gystadlu, bydd sgôr Cymru yn cynyddu unwaith eto.
Maent wedi codi i’r 48fed safle am y tro.
Ac os y gallai Cymru ddal eu gafael ar eu lle yn y 50 safle uchaf yn Ewrop, bydd y gynghrair yn adennill y pedwerydd lle yng nghystadlaethau UEFA.