Penodi Rhian Bowen-Davies i rôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Rhian Bowen-Davies fydd Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru ar ôl cael ei phenodi gan y Prif Weinidog Vaughan Gething.
Mae gan Mrs Bowen-Davies brofiad yn y maes gan iddi fod yn gadeirydd arbenigol Adolygiadau Lladdiadau Domestig, sy'n cynnwys pobl hŷn.
Hi oedd Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Bydd hi'n dechrau ar ei swydd ym mis Medi, pan ddaw cyfnod Heléna Herklots fel comisiynydd i ben.
Dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at ddechrau'r swydd ymhen deufis.
“Braint ac anrhydedd yw cael cynnig y cyfle i wasanaethu fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru," meddai.
“Gan weithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan, rwy'n edrych ymlaen at gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, cynnal a hyrwyddo hawliau a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb.
“Gyda'n gilydd byddwn yn sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol i wireddu'r weledigaeth i wneud Cymru'n wlad oed-gyfeillgar.”
'Dim rhagfarn ar sail oedran'
Yn 2008, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu Comisiynydd Pobl Hŷn. Mae gan y Comisiynydd ystod o bwerau cyfreithiol i helpu i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl hŷn.
Mae’r rôl yn cynnwys:
- Hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru
- herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn
- hyrwyddo arferion gorau yn y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin
- adolygu deddfwriaeth sy'n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn
Dywedodd y Prif Weinidog, Vaughan Gething y bydd Rhian Bowen-Davies yn dod mewn i'r swydd â phrofiad.
“Ein gweledigaeth gyffredin yw Cymru sy'n galluogi pobl i fyw a heneiddio'n dda, lle nad yw rhagfarn ar sail oedran yn cyfyngu ar botensial pobl yn eu blynyddoedd diweddarach.
“Rwy'n falch o benodi Rhian i'r rôl. Bydd hi'n dod â phrofiad helaeth o lunio polisi a sbarduno gwelliannau i fod yn eiriolwr cryf dros bobl hŷn.
“Hoffwn ddiolch hefyd i Heléna Herklots, y gwnaeth ei gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig, alluogi lleisiau rhai o'r bobl sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf i gael eu clywed ac i ddylanwadu ar bolisi er gwell.”
Llun: Llywodraeth Cymru