Newyddion S4C

Pedwar o bobl wedi marw yn ystod ymgais i groesi’r Sianel

12/07/2024
Plismon Ffrainc

Mae pedwar o bobl wedi marw wrth geisio croesi’r Sianel i’r DU o Ffrainc.

Fe gadarnhaodd gwylwyr y glannau Ffrainc y marwolaethau ar ôl i gwch droi drosodd dros nos.

Fe ychwanegodd y gwasanaeth bod 63 o ymfudwyr wedi cael eu hachub yn ystod ymgais i groesi dros nos.

Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Gartref yn dangos bod 419 o bobl wedi gwneud y daith ar draws y Sianel o Ffrainc i’r DU mewn chwe chwch ddydd Mawrth.

Amcangyfrifir bod cyfanswm o 14,058 o bobl wedi croesi’r Sianel i’r DU hyd yma yn 2024.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.