Jade Jones yn cael cystadlu yng Ngemau Olympaidd er iddi dorri rheolau cyffuriau
Bydd y pencampwr taekwondo Jade Jones yn cael cystadlu yn y Gemau Olympaidd ar ôl penderfyniad na fydd yn wynebu unrhyw gosb am dorri rheolau cyffuriau.
Fe gafodd y Gymraes, 31 oed, a enillodd fedal aur yn Llundain 2012 a Rio 2016, ei hatal dros dro gan Asiantaeth Gwrth Gyffuriau’r DU (Ukad) ar ôl iddi fethu â darparu sampl wrin i swyddogion a daeth i ymweld â hi mewn gwesty ym Manceinion ar 1 Rhagfyr 2023.
Ond dywedodd Ukad eu bod wedi cael cofnodion meddygol cyfrinachol a oedd yn dangos nad oedd “bai nac esgeulustod am iddi wrthod neu fethu â chyflwyno sampl”.
Dywedodd Ukad, wnaeth ddim nodi'r cyflyrau meddygol, ei fod yn fodlon i beidio â chosbi Jones am yr "amgylchiadau eithriadol iawn".
Fe arwyddodd Jade Jones ddogfen i ddweud nad oedd yn gallu darparu sampl gan ei bod yn cael hyfforddiant dadhydradu cyn sesiwn pwyso a mesur pan ymwelodd swyddogion â hi mewn gwesty ym mis Rhagfyr.
Dywedodd Jones, a wnaeth roi prawf negyddol yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw ar ôl darparu sampl i brofwr ar wahân, iddi wneud “camgymeriad” drwy beidio â darparu’r sampl ar y tro cyntaf o ofyn.
"Ar y pryd y dechreuodd hyn, doeddwn i ddim yn sylweddoli'r sefyllfa roeddwn i ynddi a beth allai ddigwydd," meddai Jones mewn datganiad.
“Yr hyn rwy’n ei ddeall nawr yw nid yn unig y camgymeriad a wnes i ond y rhesymau y digwyddodd ac y gallai fod canlyniadau gwahanol.”
Ychwanegodd ei bod hi "dan straen ac wedi mynd i banig" ar fore'r prawf a fethwyd.
Fe enillodd Jones, o'r Fflint, fedal aur Olympaidd yn Llundain 2012, yn 19 oed.
Mae hi'n paratoi ar gyfer ei phedwaredd Gemau Olympaidd ar ôl cael ei dewis yn un o bedwar aelod o dîm Taekwondo Prydain ar gyfer y gemau ym Mharis.