Cyhoeddi cynllun i ddelio â gorlenwi carchardai
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Cyfiawnder ddatgelu cynllun i ddelio â gorlenwi carchardai ‘trychinebus’ yn y DU.
Daw hyn yn sgil pryderon na fydd lle mewn carchardai o fewn wythnosau.
Mae disgwyl i Shabana Mahmood osod mesurau brys a allai gynnwys lleihau’r amser cyn i rai carcharorion gael eu rhyddhau’n awtomatig.
Mae disgwyl iddi ddadlau bod lefel y gorlenwi, a ddisgrifiwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder fel un “trychinebus”, yn gofyn am “weithredu ar unwaith” i “dynnu’r system gyfiawnder yn ôl o fin cwympo’n llwyr”.
Mae’r mesurau brys yn ymgais i atal y sefyllfa rhag mynd mor ddrwg fel ei bod yn arwain at "doriad mewn cyfraith a threfn".
Yn ôl ystadegau, er mwyn i system y carchardai redeg yn esmwyth ac yn effeithiol, yn ddelfrydol mae’n rhaid cadw 1,425 o gelloedd yn rhydd mewn carchardai dynion bob amser i wneud yn siŵr bod digon o le i ddal mewnlifiadau sydyn o garcharorion.
Yn ôl adroddiadau, dim ond 700 sydd bellach ar gael a bod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod 83,380 o ddynion mewn carchardai ar hyn o bryd.
Mae dau allan o'r tri charchardy prysuraf yn y DU wedi eu lleoli yng Nghymru.
Yn ôl yr ystadegau swyddogol diwethaf roedd 1,882 o garcharorion yng Ngharchar y Berwyn ger Wrecsam, a 1716 yng Ngharchar Parc ger Pen-y-bont ar Ogwr, yn 2023.